Mae clwb pêl-droed Seisnig wedi cael ei gyhuddo o dorri rheolau Covid-19 oherwydd bod rhan fwyaf o’u cae wedi ei leoli yng Nghymru.

Mae’r ffin yn rhedeg yn uniongyrchol drwy brif eisteddle Stadiwm Deva, cartref clwb pêl-droed Caer, ond mae’r cyfeiriad yn cael ei restru yn Lloegr.

A chan fod y rhan fwyaf o’r cae a’r eisteddleoedd wedi eu lleoli ochr yma i’r ffin yn Sir y Fflint, mae’n debyg bod y clwb yn destun rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai digwyddiadau chwaraeon sydd ddim yn broffesiynol yn cael eu cyfyngu i 50 o gefnogwyr o Ddydd San Steffan ymlaen.

Ar ben hynny, dydy chwaraeon proffesiynol ddim yn cael cefnogwyr o gwbl, gyda gemau yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.

Ar y llaw arall, does dim cyfyngiadau ar niferoedd cefnogwyr yn Lloegr, dim ond rhwymedigaeth wrth gyrraedd gemau i ddangos pàs Covid-19 fel tystiolaeth o statws brechu neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif.

‘Mesurau Cymreig yn berthnasol’

Mae Caer wedi chwarae gartref ddwywaith yng Nghynghrair Cenedlaethol y Gogledd ers i’r rheolau gael eu cyflwyno – dwy gêm gyfartal yn erbyn Fylde a Telford.

Yn ôl adran chwaraeon y Daily Post, roedd dros 2,000 o bobol wedi mynychu’r ddwy gêm honno dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Ar yr un pryd, roedd cefnogwyr cynghreiriau Cymru wedi cael y siom o weld y gynghrair yn cael ei gohirio am y tro.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y clwb yn destun mesurau Cymreig.

“Mae stadiwm Clwb Pêl-droed Caer yng Nghymru felly mae mesurau Cymreig yn berthnasol,” meddai llefarydd wrth y Daily Post.

“Felly mae awdurdodau gorfodi Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn delio â’r mater.”

Y stadiwm ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr

Ymateb y cadeirydd

Roedd cadeirydd Caer, Andrew Morris, yn ymddangos fel pe bai’n wfftio’r mesurau Cymreig, gan ddweud eu bod nhw’n dilyn canllawiau Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer.

Dywedodd wrth y Daily Post: “Amddiffyn iechyd a lles ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr, staff, chwaraewyr a’r gymuned ehangach yw ein blaenoriaeth.

“Fel rydyn ni wedi gwneud trwy gydol y pandemig Covid-19, mae ein clwb yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr.

“Trwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi ymgysylltu’n weithredol gyda’r sefydliadau statudol perthnasol ynghylch hwyluso pêl-droed a digwyddiadau eraill yn ddiogel yn Stadiwm Deva, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cwrdd â gofynion lleol a chenedlaethol ac yn parhau i wneud hynny.”

‘Ceisio cyngor cyfreithiol’

Yn ddiweddarach, fe wnaeth y clwb gyfarfod â’r awdurdodau er mwyn cael diweddariad am y sefyllfa.

Eglurwyd yn ystod y cyfarfod y byddai’r clwb yn destun rheoliadau Covid-19 Cymru, ac mewn ymateb i hynny dywedon nhw y byddan nhw’n “ceisio cyngor cyfreithiol.”

“Fore heddiw (dydd Gwener, 7 Ionawr), cafodd Clwb Pêl-droed Caer eu gwahodd i gyfarfod â chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Swydd Gaer a Chyngor Swydd Gaer a Chaer,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd y Clwb lythyr ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn amlinellu toriadau posib o fesurau coronafirws Cymreu yn ein gemau ar 28 Rhagfyr 2021 a 2 Ionawr 2022.

“Mae hefyd yn datgan y byddai’r Clwb efallai’n torri rheolau eto yn y dyfodol os yw’n parhau i chwarae gemau cartref gyda thorfeydd tra bod y cyfyngiadau presennol yng Nghymru yn parhau.

“Cawson ni ein hysbysu bod hyn yn dilyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod lleoliad Clwb Pêl-droed Caer yn cael eu llywodraethu gan reoliadau Cymreig. Doedd Llywodraeth Cymru ddim wedi’u cynrychioli yn y cyfarfod.

“Cytunwyd y bydd pob parti yn ceisio cyngor cyfreithiol pellach wrth ystyried y materion cymhleth a goblygiadau unrhyw ganlyniadau yn y dyfodol.

“Byddwn yn darparu diweddariad pellach i’n cefnogwyr cyn gynted â byddwn ni’n gallu.”