Mae’n edrych yn debyg na fydd George North na Justin Tipuric ar gael i Gymru ar gyfer dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cadarnhaodd rheolwr y Gweilch, Toby Booth, ei bod hi’n annhebygol y bydd y ddau yn ffit erbyn 5 Chwefror, pan fydd y crysau cochion yn teithio i Ddulyn i herio Iwerddon.
Cafodd y blaenasgellwr Tipuric anaf i’w ysgwydd wrth chwarae i’r Llewod yn erbyn Japan dros yr haf y llynedd, tra bod North allan ers mis Ebrill ar ôl rhwygo ligament yn ei ben-glin.
Mae Cymru hefyd yn dioddef o absenoldebau’r capten Alun Wyn Jones, yn ogystal â’r chwaraewr rheng ôl Josh Navidi – y ddau wedi brifo eu hysgwyddau.
Ar hyn o bryd, mae lle Ken Owens yn y garfan dan amheuaeth oherwydd anaf i’w gefn, tra bod Ross Moriarty a Dan Lydiate hefyd ar ras i fod yn holliach i gael eu hystyried gan Wayne Pivac.
Er yr ergydion enbyd hynny, mae mwy o newyddion da wrth i Taulupe Faletau ddod yn agos iawn at ddychwelyd i’r cae rygbi ar ôl iddo yntau gael anaf i’w bigwrn ar daith y Llewod y llynedd.
Ras yn erbyn y cloc
Dywedodd Toby Booth fod Justin Tipuric yn cymryd yn “hirach na’r disgwyl” ac nad yw’n credu y byddai’n ôl mewn pryd i’r Chwe Gwlad.
“Dydy o ddim yn hyfforddi,” meddai Booth.
“Mae’n araf iawn… Rydyn ni’n cael ein rheoli gan y ffordd mae ei gorff yn ymateb i driniaeth.”
Roedd Toby Booth hefyd yn dweud ei bod hi’n “fwy tebygol o fod yn ’na’” i George North hefyd.
“Mae George mewn sefyllfa wahanol ac mae’r anaf yn wahanol,” meddai.
“Dw i wedi gweld George o gwmpas yn gwneud llawer o hyfforddi gyda’r grŵp o chwaraewyr sydd ag anafiadau.
“Fe welais i o yn gynharach ac roedd mewn hwyliau da.
“Fyddwn ni’n darparu ein diweddariad meddygol arferol, ond mae’n gwneud cynnydd.”