Mae Manchester United wedi galw Ethan Laird yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Abertawe, ac wedi ei anfon i Bournemouth.

Daeth cadarnhad o’i ymadawiad gan Glwb Pêl-droed Abertawe.

Symudodd e i Gymru ar fenthyg am dymor ym mis Awst, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae 21 o weithiau i’r clwb, gan gynorthwyo pedair gôl.

Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei gyfraniad, gan ddymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.