Mae Bellator wedi cadarnhau mai Khurshed Kakhorov o Tajikistan y bydd y Cymro Cymraeg Brett Johns yn ymladd yn ei erbyn nesaf.

Dydy Kakhorov erioed wedi colli – gyda record o 6-0 – tra bod gan Johns record o 17-3.

Daeth cadarnhad fis Hydref y llynedd fod Johns, sy’n hanu o Abertawe, wedi symud o’r UFC at Bellator.

Ymunodd â’r sefydliad ar ôl methu â dod i gytundeb gyda’r UFC ynghylch ei ddyfodol.

“Dw i yma i gael fy nhalu’r hyn dw i’n credu sy’n deg,” meddai ar y pryd.

Ond collodd ei ornest Bellator gyntaf yn yr Unol Daleithiau ym mis Mai.

Roedd e’n ymladd yn erbyn Danny Sabatello, oedd hefyd yn ei ornest Bellator gyntaf, yn Uncasville yn nhalaith Connecticut.

Roedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol, wrth i Sabatello ennill ar bwyntiau, gyda phob un o’r beirniaid yn nodi sgôr o 30-27.