Dywed Eluned Morgan y byddai Llywodraeth Cymru yn “siomedig” pe bai gemau cartref Cymru yn y Chwe Gwlad yn cael eu cynnal yn Lloegr.

Mae’n debyg bod Undeb Rygbi Cymru wedi bod mewn trafodaethau i gynnal gemau dros y ffin oherwydd bod Covid-19 yn bygwth trefniadau’r gystadleuaeth eleni.

Ar hyn o bryd, mae cyfyngiadau mewn grym yng Nghymru sy’n datgan bod rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon proffesiynol gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig.

Yn yr Alban, dim ond 500 o bobol sy’n cael mynychu digwyddiadau chwaraeon awyr agored, tra bod Ffrainc ac Iwerddon wedi cyfyngu torfeydd i 5,000.

Yn y cyfamser, Lloegr a’r Eidal yw’r unig wledydd sydd heb gyfyngiadau ar niferoedd, ac er mwyn sicrhau y gall cefnogwyr fynychu gemau, mae’r Undeb yn ystyried cynnal holl gemau Cymru mewn stadiwm yn Lloegr, gyda Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain yn un o’r lleoliadau sydd wedi eu crybwyll.

Mae gêm gartref gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth eleni yn erbyn yr Alban ar ddydd Sadwrn, Chwefror 12, gyda gornestau yn erbyn Ffrainc ar Fawrth 11 a’r Eidal i ddilyn Fawrth 19.

Ymateb

Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi ymateb i’r sïon y gallai gemau cartref Cymru gael eu symud o Gaerdydd.

“Rydyn ni i gyd eisiau gweld y rygbi’n digwydd yng Nghymru,” meddai wrth BBC Cymru.

“Byddwn ni’n siomedig pe bai Undeb Rygbi Cymru yn gwneud y penderfyniad hwnnw [i gynnal gemau yn Lloegr].”

Dywed eu bod nhw’n cydnabod y byddai yna “ganlyniadau ariannol” i’r Undeb pe bai gemau’n cael eu gohirio, ond y byddai “dealltwriaeth” gyda Llywodraeth Cymru yn eu gweld nhw’n darparu cymhorthdal iddyn nhw.

“Yn amlwg, pe baen nhw’n mynd i Loegr, byddai’n fwy anodd i ni gyflwyno’r gefnogaeth ariannol honno,” meddai Eluned Morgan.

Eluned Morgan

“Y gwir amdani yw bod yr amrywiolyn Omicron yn symud yn gyflym iawn.

“Beth rydyn ni’n ei obeithio yw y byddwn ni’n cyrraedd yr anterth a gweld achosion yn dod i lawr yn gyflym iawn wedi hynny.

“Mae dwy o’r gemau i fod i gael eu chwarae ym mis Mawrth, felly cawn weld a fyddwn i wedi adfer erbyn hynny.”

‘Ergyd arall’

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn “optimistaidd” y bydd y pryderon am yr amrywiolyn Omicron yn lleihau maes o law.

“Mae’n rhaid i Lafur feddwl yn galed ynglŷn ag a yw’r cyfyngiadau yn hollol angenrheidiol,” meddai.

“Byddai llawer o bobol yng Nghymru yn dweud wrthoch chi fod y cyfyngiadau presennol ddim yn gwneud synnwyr.

“Byddai’n ergyd arall i’r economi Gymreig pe bai mwy o bunnoedd Cymreig yn cael eu gwario yn Llundain, nid Caerdydd.”

‘Gwnewch i hyn ddigwydd’

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru wedi mynegi eu rhwystredigaeth gyda’r sefyllfa bresennol sy’n wynebu Undeb Rygbi Cymru.

Mae rhai yn dweud y dylen nhw sicrhau bod gemau’n digwydd yn Lloegr i ganiatáu i gefnogwyr wylio gemau.

Dywedodd yr asgellwr Louis Rees-Zammit fod “rygbi’n ddim byd heb y cefnogwyr, gwnewch hyn ddigwydd,” ac mewn ymateb i hynny, dywedodd ei gyd-asgellwr Josh Adams ei fod “gydag o” yn yr alwad honno.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y maswr Dan Biggar y “dylai popeth fod yn cyfateb” rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n credu bod llawer o’r bechgyn yng Nghymru yn eithaf rhwystredig gyda’r [sefyllfa],” meddai.

“Dw i’n gobeithio ar gyfer digwyddiad fel y Chwe Gwlad ac ar gyfer y gêm ar draws y Deyrnas Unedig ein bod ni’n gallu dod i ganlyniad synhwyrol.

“Cyn belled â bod pawb yn ddiogel ac wedi cael dau frechlyn, yna dw i’n credu ei bod hi’n gwneud synnwyr i gael torfeydd i mewn.”

Trafod cynnal gemau cartref Cymru yn y Chwe Gwlad yn Lloegr

Cyfyngiadau Covid-19 ar hyn o bryd yn rhwystro cefnogwyr rhag gwylio gemau yn Stadiwm Principality

Trafod cynnal gemau’r Chwe Gwlad heb gefnogwyr

Mae’n well gan y trefnwyr wneud hynny na gohirio’r gystadleuaeth yn gyfan gwbl, yn ôl y Telegraph