Mae Casnewydd wedi cadarnhau bod yr ymosodwr Jordan Greenidge wedi gadael y clwb heddiw (dydd Iau, Ionawr 6).

Ymunodd e â’r clwb fis Awst, a gwnaeth e chwe ymddangosiad ar draws yr holl gystadlaethau.

Daeth ei unig gôl i’r clwb mewn gêm yn erbyn Arsenal dan 21 yn Nhlws yr EFL.

“Diolchwn i Jordan am ei ymdrechion yn y clwb a dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Alltudion mewn datganiad.