Dylai’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon ddim bwrw ymlaen â’u cais i gynnal Cwpan y Byd 2030, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau San Steffan.

Roedd Julian Knight, Cadeirydd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain, yn ymateb i adroddiadau a oedd yn honni y gallai’r gwledydd ganolbwyntio ar gynnig am Ewro 2028 yn lle.

Dywedodd papur newydd y Times yn gynharach yr wythnos hon bod disgwyl i’r pum cymdeithas pêl-droed ddod â’r cynnig ar gyfer Cwpan y Byd i ben yn gynnar.

Daw hyn yn dilyn trwbl ymysg cefnogwyr Lloegr yn Wembley cyn ffeinal yr Ewros y llynedd, sydd wedi gwneud y cais edrych yn fwy a mwy amheus.

Mae sïon yn honni mai bargeinio gwleidyddol o fewn FIFA sy’n debygol o rwystro’r cynllun rhag cael ei wireddu, ond mae Knight yn teimlo mai enw drwg cefnogwyr Lloegr sydd am lychwino unrhyw gais.

“Mae’n drist oherwydd ein bod ni’n addas ar gyfer cynnal twrnament, ond mae gennyn ni enw drwg iawn yn y gêm ryngwladol,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod bod cynnwrf o gwmpas cynnig am Gwpan y Byd yn brosiect gwagedd enfawr a drud.

“Felly mae’n well i ni anelu at rywbeth cyraeddadwy, stopio’r lol mai ‘ni yw cartref pêl-droed’, diwygio ein gêm ddomestig, a chanolbwyntio ar ennill a chyflawni cystadleuaeth Ewros penigamp.”

Cais ‘heb ei niweidio’

Fe wnaeth Knight wneud y sylwadau hyn ar ôl galw’r cynnig yn “nonsens llwyr” yn ystod gwrandawiad ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd y gwrandawiad yn trafod a oedd cynnal Cwpan y Byd yn bosib, ar ôl methiant llwyr ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn 2006 a 2018.

Bryd hynny, roedd Gweinidog Chwaraeon Lloegr, Nigel Huddleston, yn teimlo bod yr anhrefn yn Wembley “heb niweidio cais” Cwpan y Byd gwledydd Prydain ac Iwerddon.

Roedd hefyd yn dweud bod y broses ymgeisio wedi newid yn llwyr ers y troeon diwethaf pe baen nhw i gymryd rhan eto.

Straen rhwng UEFA a FIFA

Dydy UEFA ddim yn wrthwynebol i unrhyw gais gan wledydd Prydain ac Iwerddon, ond wedi dweud hynny, mae perthynas rhwng UEFA a FIFA wedi dod o dan straen yn ddiweddar.

Daw hyn ar ôl i FIFA awgrymu cynnal Cwpan y Byd bob dwy flynedd – syniad mae UEFA yn anghytuno ag o.

Bydd unrhyw gynnig gan UEFA ar gyfer Cwpan y Byd 2030 felly yn debygol o gael ei effeithio gan y berthynas honno sydd wedi suro.

Mae cynnig gan wledydd yn Ne America yn eithaf deniadol hefyd, gan y byddai’n ffordd o nodi can mlwyddiant y gystadleuaeth, a gafodd ei chynnal yn Wrwgwai yn 1930.

Ar y llaw arall, mae gwledydd Prydain ac Iwerddon yn teimlo byddai cynnal y gystadleuaeth yng nghartref ‘traddodiadol’ pêl-droed yn fwy addas.

Pe baen nhw’n penderfynu ymgeisio am Ewro 2028 yn lle, mae ganddyn nhw tan 23 Mawrth i ddatgan eu diddordeb mewn ymgeisio i UEFA.