Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad ynghylch caniatáu torfeydd yng ngemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eto.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn ystyried cynnal eu gemau cartref tu allan i Gymru, a dywedodd Mark Drakeford nad oes ganddo broblem gyda’u penderfyniad i archwilio’r posibilrwydd.
Yn ôl yr adroddiadau, mae Undeb Rygbi Cymru yn trafod y posibilrwydd o gynnal y gemau yn erbyn Yr Alban, Ffrainc, a’r Eidal mewn stadiwm yn Lloegr gan na fyddai modd eu chwarae gyda chefnogwyr yng Nghymru fel mae pethau’n sefyll.
Mae nifer o chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Louis Rees-Zammit a Josh Adams, wedi datgan eu cefnogaeth i’r fath gynllun.
“Mae’n rhaid i ni weld y don o achosion Omicron yn troi congl, mae’n rhaid i ni reoli’n ffordd drwy’r wythnosau anodd iawn sydd i ddilyn tra bod y rhifau dal i godi,” meddai Mark Drakeford heddiw.
“Os yw’r model yn gywir, byddwn ni’n gweld y rhifau’n gostwng yn weddol sydyn fel maen nhw wedi codi – yna byddwn ni mewn safle i weld a yw hi’n ddiogel i ni ganiatáu mwy o gymysgu cymdeithasol.”
Penderfyniad ar “sail diogelwch”
Cyflwynodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfyngiadau ar dorfeydd ym mis Rhagfyr, sy’n datgan bod rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon mwy o faint gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.
Dywedodd Mark Drakeford mai pobol yn teithio i’r stadiwm, pobol yn ymgynnull o amgylch y stadiwm, a sut mae pobol yn ymddwyn yw’r risg, nid y gêm ei hun.
“Felly mae yna fesurau ychwanegol y gallwn ni eu mabwysiadu i helpu i liniaru’r risgiau hynny,” meddai.
“Wrth gwrs, byddai’n well gennym ni gyd petaem ni mewn sefyllfa lle gallai’r Chwe Gwlad fwrw ymlaen gyda phobol yn gwylio’r gêm yma yng Nghymru.
“Y mater dan sylw yw a oes posib gwneud hynny’n ddiogel.
“A yw nifer y bobol sy’n mynd yn sâl gyda’r feirws mor uchel fel na fyddai ychwanegu risg arall yn beth cyfrifol i’w wneud.
“Dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd pan rydych chi’n trïo trefnu digwyddiad mawr ac mae pwysau amser, ond ni fyddwn ni’n gwybod hynny am yr ychydig o wythnosau nesaf.
“Ond byddwn yn gwylio’n ofalus iawn ac fel y dywedais, cyn gynted ag y gallwn wneud penderfyniad, byddwn ni’n gwneud un, ond bydd y penderfyniad yn cael ei wneud ar sail diogelwch y cyhoedd a diogelwch iechyd y cyhoedd.”
Cynnal gemau dros y ffin?
Pe bai’r gemau yn Lloegr, byddai modd cael torf lawn gan nad oes cyfyngiadau ar niferoedd yno.
Penderfyniad Undeb Rygbi Cymru yw lleoliad y gemau, meddai Mark Drakeford, gan ddweud ei fod am ddweud ei fod yn “gwerthfawrogi’r ffordd mae Undeb Rygbi Cymru wedi gweithredu drwy gydol yr holl bandemig”.
“Undeb Rygbi Cymru wnaeth benderfynu gohirio’r gêm Cymru a’r Alban ar ddechrau un y pandemig cyn i’r Llywodraeth ofyn iddyn nhw wneud hynny,” ychwanegodd.
“Undeb Rygbi Cymru wnaeth ganiatáu i Stadiwm y Principality gael ei defnyddio fel ysbyty Nightingale, ac Undeb Rygbi Cymru wnaeth gynnal pedair gêm ryngwladol lwyddiannus yng Nghaerdydd yn ystod cyfres yr Hydref.”
Dywedodd nad yw’n beirniadu Undeb Rygbi Cymru am ystyried cynnal gemau yn Lloegr, ond y byddai yna “risgiau diamheuol” wrth chwarae gemau yn Lloegr “ynghanol storm” o achosion Covid-19.
“Maen nhw yn fusnes, ac fel busnes cyfrifol mae hi’n ymddangos i mi eu bod nhw’n sicr am edrych ar yr holl bosibiliadau gwahanol sydd o’u blaen nhw,” meddai.
“Oes gennyf i broblem gyda nhw’n edrych ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw? Na, does gen i ddim.”