Mae chwaraewr canol cae Cymru David Brooks wedi datgelu bod pethau’n “addawol a chadarnhaol” wedi iddo ddechrau triniaeth am ganser.

Cafodd ddiagnosis o lymffoma Hodgkin cam dau ym mis Hydref ac mae wedi dechrau ar driniaeth chemotherapi ers hynny.

Rhoddodd asgellwr Bournemouth ddiweddariad ar gyfryngau cymdeithasol o’r driniaeth honno gan ddweud ei fod yn gwneud “cynnydd da”.

Dywed y gŵr 24 oed ei fod wedi cwblhau hanner y driniaeth, gan ychwanegu ei fod “yn edrych ymlaen at rannu mwy o newyddion da.”

Mae Brooks wedi chwarae 24 o weithiau dros Gymru, gan sgorio ddwywaith, ac fe ymddangosodd iddyn nhw ym mhencampwriaeth yr Ewros y llynedd.

‘Newyddion ffantastig’

Rhannodd David Brooks neges ar ei dudalennau ar Instagram a Twitter yn rhoi newyddion da i’w ddilynwyr.

“Yn gyntaf, blwyddyn newydd dda i bawb,” meddai.

“Dw i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i’ch diweddaru chi am fy nghynnydd ers y diagnosis yn Hydref y llynedd.

“Dw i eisiau diolch i bawb sydd wedi cysylltu â fi ar ôl y cyhoeddiad.

“Ro’n i ar ben fy nigon yn derbyn negeseuon anhygoel o gefnogaeth oddi wrth teulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod anodd hwn.

“Dw i ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth ac er fy mod i ddim ond hanner ffordd drwyddo, mae’r cynnydd yn dda ac mae’n edrych yn addawol a chadarnhaol.

“Dw i’n cadw mewn cysylltiad gyda phawb yn Bournemouth a’r tîm cenedlaethol a’n edrych ymlaen am ddiweddglo cyffrous i’r tymor i fy nghlwb a fy ngwlad.

“Diolch eto am eich holl gariad a chefnogaeth. Rwy’n edrych ymlaen at rannu mwy o newyddion da gobeithio dros y misoedd nesaf.

“Cofion gorau, David.”

Mewn ymateb i’r pyst, roedd llawer o’i gyd-chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr yn dymuno’n dda iddo.

Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, bod hyn yn “newyddion ffantastig,” tra bod ei gyn-glwb Sheffield United yn dweud “rydyn ni gyd tu ôl i ti, Brooksy.”

Fe wnaeth tudalen timau pêl-droed cenedlaethol Cymru ddweud “gyda’n gilydd, rydyn ni’n gryfach,” sy’n gyfeiriad at eu slogan enwog.