Mae cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman, wedi cael ei benodi’n rheolwr newydd y clwb Groegaidd, Atromitos.

Mae Coleman wedi llofnodi cytundeb tan ddiwedd y tymor, gyda’r opsiwn o flwyddyn ychwanegol.

“Rwy’n hapus am y cytundeb cyffrous hwn,” meddai Coleman wrth wefan Atromitos.

“Mae’n bennod newydd, yn her newydd. Roedd diddordeb 10 mlynedd yn ôl, ond amseru yw’r peth gyda rhai materion – a nawr yw’r amser.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i Wlad Groeg a dechrau gweithio gyda’n gilydd.

“Rwyf am helpu Atromitos i gael ei hun yn y mannau y dylai fod eto, gyda newid i’r cyfeiriad cywir.”

Dechreuodd Coleman ei yrfa fel rheolwr yn Fulham ac arweiniodd Gymru i rownd gynderfynol Euro 2016, wrth gwrs.

Mae hefyd wedi rheoli Coventry a Sunderland ac wedi cael cyfnodau blaenorol dramor yn Real Sociedad, AEL yng Ngwlad Groeg, a chlwb Hebei yn Tsieina.

Ar hyn o bryd mae Atromitos un lle oddi ar waelod Uwchgynghrair Groeg ar ôl ennill dim ond ddwywaith mewn 15 gêm.