Bydd Abertawe ddim ar eu cryfaf yn eu gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn achosion o Covid-19.

Er hynny, mae eu rheolwr Russell Martin yn hyderus y byddan nhw’n “gallu cyflwyno tîm cryf” i fygwth Southampton brynhawn heddiw (dydd Sadwrn, 8 Ionawr).

Oherwydd bod cymaint o achosion Covid-19, dydy’r Elyrch heb chwarae ers 11 Rhagfyr, pan wnaethon nhw golli o 4-1 yn erbyn Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth.

Maen nhw wedi gorfod canslo gemau yn erbyn Queens Park Rangers, Millwall, Luton a Fulham dros yr wythnosau diwethaf, gan nad oedden nhw’n gallu cael digon o chwaraewyr at ei gilydd.

Er bod y mwyafrif o’r chwaraewyr sydd wedi bod yn hunanynysu yn gallu dychwelyd erbyn heddiw, bydd rhai yn absennol oherwydd eu bod nhw ddim yn hollol ffit neu heb ddychwelyd i’r sesiynau ymarfer.

Bydd y gêm yn Stadiwm Swansea.com am 17:30 heno, gyda darllediad byw ohoni ar BBC One Wales.

‘Cyffrous i gael gêm’

Dywedodd rheolwr Abertawe, Russell Martin, cyn y gêm y byddan nhw’n gallu cyflwyno tîm cryf ar y dydd, er bydd rhai yn parhau i fod yn absennol.

“Mae’r garfan ychydig yn fwy llawn,” meddai.

“Rydyn ni’n dal i fethu cwpl o chwaraewyr sydd wedi profi’n bositif yn gynharach yr wythnos hon.

“Dros y cwpl o ddyddiau diwethaf, dydyn ni heb gael profion positif, sy’n newyddion da.

“Dydy’r holl niferoedd ddim wedi bod yn hyfforddi, ond rydyn ni mewn lle gwell ac yn gallu rhoi tîm cryf allan.”

Dyma fydd gêm cyntaf Abertawe ers bron i fis, ac mae Martin yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r cae.

“Mae’r chwaraewyr wedi hyfforddi’n dda ers dod yn ôl, mae wedi bod yn wythnos dda ac rydyn ni’n gyffrous i gael gêm ar ôl aros yn hir,” meddai.

“Rydyn ni wedi gwneud cymaint o waith ag y gallwn ni gyda’r dynion sydd ar gael ac rydyn ni eisiau rhoi perfformiad da.”

Covid ymhlith y gwrthwynebwyr

Mae eu gwrthwynebwyr Southampton wedi cadarnhau y bydd Kyle Walker-Peters a Che Adams yn colli’r gêm oherwydd Covid.

Ar ben hynny, mae Will Smallbone a Tino Livramento wedi eu hanafu a Mohamed Salisu wedi ei wahardd.

Bydd eu hasgellwr Moussa Djenepo yn absennol hefyd gan y bydd yn chwarae yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica.

Ar hyn o bryd, mae’r Seintiau yn 14eg yn yr Uwchgynghrair, ac wedi cael canlyniadau da yn erbyn Tottenham (gêm gyfartal 1-1) a West Ham (buddugoliaeth 3-2) yn ddiweddar.