Mae Rygbi Caerdydd yn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ers mis Hydref.

Dydy’r rhanbarth heb chwarae yn y gystadleuaeth honno ers y gêm yn erbyn y Dreigiau ar 23 Hydref, gan y bu’n rhaid gohirio nifer o gemau oherwydd achosion Covid-19 yn y garfan.

Gwelodd hynny fwyafrif y staff a’r chwaraewyr yn gorfod hunanynysu yn Ne Affrica am gyfnod, yn ogystal â phan ddychwelon nhw i’r Deyrnas Unedig.

Roedd eu gemau darbi dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd wedi gorfod cael eu gohirio hefyd oherwydd achosion pellach o Covid ymysg carfannau clybiau Cymru.

Byddan nhw’n croesawu nifer o’u sêr yn ôl ar gyfer yr ornest yn erbyn Caeredin brynhawn heddiw (dydd Sadwrn, 8 Ionawr).

Mae eu gwrthwynebwyr yn gobeithio cyrraedd brig tabl y Bencampwriaeth yn y gêm, tra bod Caerdydd yn y 10fed safle.

Pe bai dynion Dai Young yn ennill yn yr Alban, byddan nhw’n sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth o’r bron yn y gynghrair eleni, gyda gornestau Ewropeaidd hefyd ar y gweill.

Newyddion tîm

Y blaenasgellwr Josh Turnbull fydd y capten ar gyfer y gêm prynhawn yma, gyda Will Boyde a James Botham yn cwblhau’r rheng ôl.

Bydd Seb Davies a Rory Thornton yn ffurfio’r ail reng, tra bydd y sgrym yn cael ei gwblhau gan Rhys Carre, Kirby Myhill a Dmitri Arhip yn y blaen.

Ymhlith yr olwyr, bydd partneriaeth rhwng chwaraewyr Cymru, Lloyd Williams a Rhys Priestland, tra bydd Rey Lee-Lo a Willis Halaholo yn ymuno yn y canol.

Y tri ôl fydd Matthew Morgan, Owen Lane a Jason Harries, sy’n chwarae yn erbyn ei gyn-glwb.

‘Croesi fy mysedd’

Dywedodd cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd, Dai Young: “Dw i’n croesi fy mysedd nes y gic gyntaf wrth ystyried y byd gwallgof hwn rydyn ni ynddo.

“Rydyn ni wedi bod yn barod fwy neu lai am dair allan o bedair gêm nawr, ond maen nhw wedi mynd o chwith funud olaf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael gêm ac rydyn ni’n eithaf gobeithiol y bydd yn digwydd yr wythnos hon. Mae gennym ni lawer o fechgyn sydd heb chwarae ers amser maith bellach.”

Wrth sôn am y cyfnod sydd newydd fynd heibio i’r clwb, ychwanegodd Young: “Roedd yn gyfnod anodd ond fe wnaethon ni lynu at ein gilydd a gobeithio ein bod ni wedi dod allan ohoni fel uned agosach.”

Carfan

Rygbi Caerdydd: Matthew Morgan; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Jason Harries; Rhys Priestland, Lloyd Williams; Rhys Carré, Kirby Myhill, Dmitri Arhip, Seb Davies, Rory Thornton, Josh Turnbull (capten), Will Boyde, James Botham

Mainc: Liam Belcher, Corey Domachowski, Will Davies-King, James Ratti, Ellis Jenkins, Tomos Williams, Jarrod Evans, Aled Summerhill