Mae Usman Khawaja, cyn-fatiwr tîm criced Morgannwg, wedi ychwanegu ei enw i’r llyfrau hanes gyda chanred yn y ddau fatiad ym mhedwerydd prawf cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Sydney.

Ar ôl sgorio 137 yn y batiad cyntaf, sgoriodd e 101 heb fod allan yn yr ail, wrth i Awstralia gau’r batiad ar 265 am chwech, gan osod nod enfawr o 388 i Loegr, sy’n 30 heb golli wiced ar ddiwedd y pedwerydd diwrnod.

30 heb golli’r wiced gyntaf yw perfformiad gorau Lloegr hyd yn hyn yn y gyfres, sy’n adrodd cyfrolau am eu perfformiadau ar y daith.

Y batiwr llaw chwith yw’r trydydd batiwr erioed i gyflawni’r gamp o ganred yn y ddau fatiad ar gae’r SCG, a dim ond y chweched batiwr yn hanes Awstralia i gyflawni’r gamp – Warren Bardsley, Arthur Morris, Steve Waugh, Matthew Hayden a Steve Smith yw’r gweddill.

Cyn y gêm hon, doedd e ddim wedi chwarae dros ei wlad ers dwy flynedd a hanner, ond mae e wedi sicrhau pen tost i’r dewiswyr ar gyfer y prawf olaf.

Ar ôl cadw’r Lludw ar ôl ennill y tair gêm gyntaf, mae Awstralia’n mynd am y gamp lawn ac maen nhw’n debygol o fod yn y ras o hyd ar drothwy’r prawf olaf yn Hobart, Tasmania.

Bydd angen i Loegr fatio am y diwrnod olaf cyfan os ydyn nhw am osgoi colli am y pedwerydd tro mewn cyfres hynod siomedig, ond mae eu nod 100 rhediad yn fwy na’r sgôr mwyaf erioed wrth gwrso nod ar y cae hwn – a 91 yn fwy na’u sgôr gorau hyd yn hyn yn y gyfres eleni.

Dim ond y capten Joe Root o blith batwyr Lloegr sydd wedi sgorio mwy o rediadau yn y gyfres na Khawaja, ac mae tri batiwr arall – Ben Stokes, Jos Buttler a Jonny Bairstow – i gyd wedi cael eu hanafu.

Daeth Ollie Pope i mewn i’r tîm fel eilydd o wicedwr, ac fe gafodd e bedwar daliad, sy’n efelychu’r record am eilydd mewn gêm brawf.

Manylion y pedwerydd diwrnod

Roedd Bairstow yn dal wrth y llain ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, ac roedd gan Loegr dair wiced yn weddill o’u batiad cyntaf, ond roedden nhw eisoes ar ei hôl hi o 158.

Dim ond 36 arall ychwanegon nhw at eu sgôr dros nos, gyda’r Aborijini Scott Boland yn gwaredu Bairstow am 113, a hwnnw wedi’i ddal gan y wicedwr Alex Carey.

Roedd Lloegr i gyd allan am 294 yn y pen draw – 122 o rediadau y tu ôl i’r tîm cartref – ac yn wynebu crasfa arall.

Bum pelawd i mewn i’r batiad, cafodd David Warner ei ddal gan Pope oddi ar fowlio Mark Wood, ac erbyn i Marcus Harris fynd allan am 27, roedd Awstralia’n 52 am ddwy.

Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, oedd y trydydd batiwr allan, a hynny am 29, ac roedden nhw’n 86 am bedair pan gafodd Steve Smith ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Jack Leach.

Ond os oedd Awstralia’n edrych fel pe baen nhw mewn ychydig o drafferth, daeth Khawaja a Cameron Green ynghyd i ychwanegu 179 at y sgôr o fewn dim o dro i’w rhoi nhw’n ôl ar y trywydd cywir.

Dangosodd Khawaja ei allu gydag ergydion i bob rhan o’r cae, gan gynnwys dwy ergyd chwech oddi ar fowlio Leach wrth i Awstralia geisio adeiladu digon o fantais i gau’r batiad.

Ond cafodd Lloegr ambell gyfle i waredu Khawaja, serch hynny, gyda Pope yn gollwng hanner cyfle oddi ar fowlio’r troellwr Root, ac fe aethon nhw at y trydydd dyfarnwr i adolygu gwaedd am goes o flaen y wiced pan oedd y batiwr ar 98.

Dechreuodd y dathliadau’n fuan wedyn, wrth i ryddhad y canred yn y batiad cyntaf gael ei ddisodli y tro hwn gan orfoledd wrth i Khawaja gyhoeddi’n ddigamsyniol ei fod e’n ôl ar ei orau ar y llwyfan rhyngwladol.

Roedd Cameron Green allan am 74 yn y pen draw wrth iddo fe daro ergyd i’r awyr oddi ar fowlio Leach i roi daliad syml i Root, ac oddi ar y belen ganlynol, cafodd Alex Carey ei ddal oddi ar ei belen gyntaf.

Ond caeodd Pat Cummins y batiad ar ôl yr ail wiced mewn dwy belen, sy’n golygu y gallai Leach gael hatric pe bai e’n cipio wiced gyda’i belen gyntaf yn y prawf olaf.

Usman Khawaja

Canred cyn-fatiwr Morgannwg yn helpu Awstralia i roi pwysau ar Loegr yn Sydney

Nawfed canred Usman Khawaja yng nghrys ei wlad ar ail ddiwrnod y pedwerydd prawf yng nghyfres y Lludw
Tlws y Lludw

Cymru a’r Lludw

Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad pump fydd yn chwarae yn y gyfres yn Awstralia y gaeaf hwn
Usman Khawaja

Canred hanesyddol i Usman Khawaja yng Nghaerdydd

Y batiwr cyntaf erioed yn hanes Morgannwg i sgorio tri chanred mewn tair gêm yn olynol
Usman Khawaja

Usman Khawaja’n ymuno ag arwr ei dad yn llyfrau hanes Morgannwg

Yr Awstraliad ymhlith criw dethol o fatwyr y sir bellach