Er i Forgannwg golli’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick o bedair wiced yn Edgbaston ddydd Mawrth, mae batiwr tramor y sir, Usman Khawaja wedi disgrifio ei falchder wrth golwg360 o ymuno â chriw dethol o fatwyr y sir.
Sgoriodd y batiwr llaw chwith 125 yn yr ail fatiad, oedd yn un o’r ychydig elfennau positif i ddod allan o’r gêm o safbwynt Morgannwg, ei drydedd sir ar ôl Swydd Derby a Swydd Gaerhirfryn. Mae hefyd wedi cynrychioli tîm prawf Awstralia 33 o weithiau.
Khawaja yw’r pedwerydd Awstraliad i gyflawni’r gamp o daro canred yn ei gêm gyntaf i’r sir, ar ôl Matthew Elliott, Mark Cosgrove ac yn fwyaf diweddar, Shaun Marsh, y batiwr y mae e wedi’i ddisodli yn y tîm am gyfnod eleni.
Ar ôl y gêm yn Edgbaston, dywedodd: “Mae rhai enwau anhygoel a chricedwyr gwych [ar y rhestr], felly dw i’n eitha’ gostyngedig.
“Mae tipyn o draddodiad yn perthyn i Forgannwg ac i griced yng Nghymru, felly mae’n braf bod ymhlith rhai o’r bois sydd wedi gwneud yr un fath yn eu gêm gynta’ nhw hefyd.”
‘Un uwchlaw pawb arall’
Ond i Usman Khawaja, mae un enw ar y rhestr yn sefyll allan uwchlaw pawb arall – arwr a chydwladwr ei dad, y gŵr o Bacistan, Javed Miandad.
Sgoriodd Miandad 134 heb fod allan yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, yn erbyn Swydd Essex yn Abertawe yn 1980, ac fe aeth ymlaen i gael ei ystyried yn un o’r mawrion o blith chwaraewyr tramor Morgannwg.
Ychwanegodd y mab: “Ces i fy ngeni ym Mhacistan ac mae ’nhad yn dwlu ar griced. Javed Miandad yw un o’i hoff chwaraewyr.
“Reodd e’n arfer siarad amdano fe drwy’r amser, ac yntau’n dod o Bacistan. Roedd fy nhad yn hoff iawn o lawer o chwaraewyr o Bacistan. Dw i’n credu y byddai’n hapus iawn gyda hyn!”
O Islamabad i Awstralia
Ac yntau wedi’i eni yn Islamabad, symudodd Usman Khawaja a’i deulu i Awstralia pan oedd e’n blentyn.
Ond mae’n mynnu nad oedd amheuaeth dros ba wlad y byddai’n chwarae criced rhyngwladol.
“Do’n i erioed wedi meddwl y byddwn i’n chwarae criced rhyngwladol. Wrth dyfu i fyny, ry’ch chi’n breuddwydio am y peth, ond byth yn gwybod yn sicr.
“Ond i fi, cynrychioli Awstralia oedd popeth. Ces i fy magu yn Awstralia.
“Pan symudodd fy rhieni i Awstralia, ar y cychwyn, roedden nhw’n cefnogi Pacistan. Ro’n i wastad yn cefnogi Awstralia.
“Dw i’n falch iawn o fod wedi chwarae mewn un gêm brawf, heb sôn am y gweddill hefyd.”
Fe fydd Usman Khawaja, y cricedwr Mwslimaidd cyntaf i gynrychioli Awstralia a’r cyntaf i’w eni ym Mhacistan, yn chwarae gartref am y tro cyntaf wrth i Forgannwg groesawu Swydd Derby i San Helen yn Abertawe ar Fehefin 20.
Fe fydd e hefyd ar gael ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos ganlynol, cyn troi ei sylw at ymgyrch y sir yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Ond bydd e’n gadael Cymru cyn gêm olaf Morgannwg yn erbyn Swydd Surrey ar Awst 17, ac yntau wedi’i ddewis yng ngharfan ‘A’ Awstralia ar gyfer y daith i India.