Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi rhybuddio Lloegr fod gwell i ddod ar ôl eu buddugoliaeth o 3-0 dros Rwsia yng Nghasnewydd nos Fawrth.
Sgoriodd Kayleigh Green ddwywaith cyn creu’r drydedd gôl i Natasha Harding, wrth i Gymru cadw llechen lân am y seithfed tro yn olynol yn un o’r gemau rhagbrofol.
Mae’r canlyniad neithiwr yn golygu y bydd y frwyr rhwng y ddwy wlad ar Awst 31 yn un dyngedfennol, gyda’r enillwyr yn mynd drwodd i Gwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae gan Gymru fantais o un pwynt dros Loegr ar drothwy’r gêm fawr mewn lleoliad sydd heb ei gadarnhau hyd yn hyn.
‘Cwympo oddi ar fy nghadair’
Ar ôl y canlyniad neithiwr, meddai rheolwr merched Cymru, Jayne Ludlow: “Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i pan gafodd yr enwau eu tynnu o’r het ym mhencadlys UEFA y bydden ni yn y sefyllfa yma, dw i’n credu y byddwn i wedi cwympo oddi ar fy nghadair!
“Doedd neb yn disgwyl i ni fod yn y sefyllfa yma ar ôl saith gêm.
“R’yn ni wedi profi’r rhai oedd yn ein hamau ni’n anghywir, a hyd yn oed rhai o fewn ein grŵp, y gallwn ni berfformio o dan bwysau.
“R’yn ni’n hapus o ran lle’r ydyn ni, ond a allwn ni wella? Gallwn.
“R’yn ni eisiau sgorio goliau yn ogystal ag amddiffyn ein gôl ein hunain, sydd wedi bod yn wych hyd yn hyn.
“Dydi pobol ddim wedi gweld yr ochr arall i ni, ond nawr r’yn ni wedi dangos y gallwn ni wneud y ddau beth.
“Mae gan Loegr amgylchfyd gwahanol i ni, nifer o bethau moethus nad oes gennym ni, ond r’yn ni ar daith… a gadewch i ni weld am ba hyd y bydd yn para.”