Mae llawer o chwaraewyr Caerdydd yn absennol ar gyfer eu gêm gartref yng Nghwpan yr FA yn erbyn Preston.

Er hynny, bydd yr amddiffynnwr Aden Flint yn glir i chwarae ar ôl cael ei yrru o’r cae yn erbyn West Brom y penwythnos diwethaf.

Yn dilyn ymchwiliad, ni fydd yn cael ei wahardd heddiw (dydd Sul, 9 Ionawr).

Mae’r ymosodwr Kieffer Moore yn parhau i fod yn absennol oherwydd problem gyda’i ffêr a phrawf Covid-19 positif ar ben hynny.

Hefyd yn absennol oherwydd anafiadau fydd Sam Bowen ac Isaac Vassell, yn ogystal â Josh Murphy, sydd yn methu â chwarae beth bynnag yn erbyn y clwb mae ar fenthyg ohono.

Bydd Leandro Bacuna ddim ar gael oherwydd ei fod yng nghanol gwaharddiad tair gêm am gael cerdyn coch yn erbyn Bournemouth ar 30 Rhagfyr.

Mae’n bosib y bydd Tom Sang yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Adar Gleision ers mis Medi yn dilyn anaf.

Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei dangos yn fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 14:00.

S4C yn dangos gêm Caerdydd yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr

Bydd gêm Abertawe yn y gwpan hefyd yn cael ei dangos ar BBC Wales