Meddylfryd y chwaraewyr oedd yn gyfrifol am golled tîm pêl-droed Abertawe o 3-2 yn erbyn Southampton yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr, yn ôl y rheolwr Russell Martin.

Aeth y gêm i amser ychwanegol, ond ildiodd yr Elyrch wedyn i roi’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Aeth Southampton ar y blaen yn gynnar drwy Nathan Redmond, cyn i’r ymwelwyr fynd i lawr i ddeg dyn pan gafodd Yan Valery ail gerdyn melyn ar ôl hanner awr.

Unionodd Joel Piroe y sgôr cyn i Jan Bednarek daro’r bêl i’w rwyd ei hun i roi’r Elyrch ar y blaen o 2-1.

Ond daeth ail gôl Southampton bron yn syth drwy Mohamed Elyounoussi, cyn i Shane Long daro’r ergyd dyngedfennol.

Chwarae am y tro cyntaf ers amser hir

Ar ôl i nifer o’u gemau gael eu gohirio oherwydd Covid-19, gyda nifer o achosion o fewn eu carfan nhw eu hunain a’u gwrthwynebwyr, dyma’r tro cyntaf i Abertawe chwarae ers canol mis Rhagfyr.

Ac er bod rhai o’r chwaraewyr yn dal i wella ar ôl cael y feirws, roedd Russell Martin wedi cael siom ynghylch y ffordd wnaeth ei dîm golli’r fantais yn erbyn y tîm sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Dechreuon ni’n eithaf nerfus gan nad yw llawer o’r bois wedi chwarae ers cyhyd,” meddai Russell Martin.

“Doedd saith neu wyth o’r bois heb ymarfer tan yr wythnos hon, ac fe wnaethon ni dyfu i mewn iddi.

“Ildion ni ac roedden ni’n teimlo, os nad oedden ni’n cicio i mewn i’r gêr cywir, y byddai’n brynhawn hir.

“Ond o’r fan honno, ro’n i’n hoffi llawer o’r pethau wnaethon ni.

“Cawson nhw ddyn wedi’i anfon o’r cae oherwydd i ni ddangos dewrder a disgyblaeth, gan roi symudiad gwych at ei gilydd lle caawson ni Michael [Obafemi] y tu ôl [i’r amddiffyn].

“O’r fan honno, mater o orfod eu torri nhw i lawr oedd e.

“Fe ddangoson ni amynedd, chwaraeon ni â dwyster ac fe wnaethon ni lawer o bethau da.

“Roedden ni’n dominyddu gydag 11 yn erbyn 10 fel y dylen ni fod, ond wnaethon ni ddim rhoi llawer o gyfleoedd iddyn nhw.

“Sgorion ni, cafodd Joel gyfle gwych i’w hennill hi, ond gwnaeth Fraser Forster arbediad gwych.”

Amser ychwanegol

Ond mae Russell Martin yn cydnabod fod meddylfryd y tîm wedi newid yn ystod amser ychwanegol.

“Sgorion ni yn ystod amser ychwanegol ac mae’n ymddangos mai ein meddylfryd ni oedd ein bod ni’n credu, efallai, fod y gêm ar ben.

“Ond dydy hi ddim ar ben yn erbyn tîm o’r Uwch Gynghrair sydd â’r fath safon ag sydd ganddyn nhw ac yn gallu dod â nhw ymlaen.

“Mae’n brifo oherwydd rydyn ni wedi eu gadael nhw’n ôl i mewn iddi.

“Doedd gyda ni mo’r meddylfryd i balu’n ddwfn a chwarae â’r un dwyster na disgyblaeth.”