Mae Lloegr wedi osgoi colli cyfres y Lludw o 5-0 ar ôl i’r batwyr frwydro i sicrhau gêm gyfartal ar ddiwrnod ola’r pedwerydd prawf yn Sydney.

Mae’n golygu bod gan Awstralia fantais o 3-0 ar drothwy’r prawf olaf yn Hobart yn Tasmania.

Roedd y Saeson yn wynebu embaras wrth iddyn nhw golli naw wiced yn eu hail fatiad yn dilyn sawl crasfa yn Brisbane, Adelaide a Melbourne, ond llwyddodd Jimmy Anderson, sy’n 39 oed, i wynebu’r belawd olaf wrth geisio amddiffyn y wiced olaf.

Roedd Lloegr dan gryn bwysau dair pelawd cyn diwedd yr ornest pan gollodd Jack Leach ei wiced, a nawfed wiced Lloegr, a hynny ar ôl llwyddo i oroesi 34 o belenni cyn i Steve Smith, y cyn-gapten a’r troellwr coes, gipio’i wiced gyntaf ers 2016 ar ôl i’r dyfarnwyr benderfynu ei bod hi’n rhy dywyll i’r bowlwyr cyflym barhau.

Wynebodd Stuart Broad 35 o belenni wrth sgorio wyth, ac roedd e ben draw’r llain pan ddaeth yr ornest i ben gyda Lloegr yn 270 am naw wrth gwrso – ond rhoi’r gorau hefyd i gwrso – 388.

Dadansoddiad: Alun Rhys Chivers

Roedd y gyfres ar ben ar ôl 12 diwrnod o griced – llai na thair gêm gyflawn – ond mae Lloegr, rywsut, wedi osgoi efelychu timau 2006/07 a 2013/14. Fyddan nhw ddim, y tro hwn, yn mynd adref wedi colli o 5-0.

Ond byddan nhw’n mynd i mewn i’r pumed prawf yn Hobart – ac nid Perth oherwydd cyfyngiadau Covid-19 Gorllewin Awstralia – gan geisio adfer rhagor o hunanbarch. Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny heb nifer o’r hoelion wyth, serch hynny, gyda Ben Stokes a Jonny Bairstow yn brwydro i wella o anafiadau mewn da bryd, a hynny ar ôl i Jos Buttler orfod hedfan adref ag anaf i’w fys.

Mae batio Lloegr wedi bod yn hynod siomedig yn ystod y daith, gyda nifer o chwaraewyr fel Haseeb Hameed yn dangos eu bod nhw allan o’u dyfnder yn Hemisffer y De. Roedd Lloegr wedi dibynnu’n helaeth ar Stokes (60) a Bairstow (41), ac mae eu habsenoldeb nhw’n debygol iawn o amlygu’r gwendidau ymhlith batwyr Lloegr. Serch hynny, mae Zak Crawley (77) yn dechrau dangos arwyddion o fod yn chwaraewr rhyngwladol da. Ac am ba hyd y gall Lloegr ddibynnu ar chwaraewyr fel Jimmy Anderson a Stuart Broad sydd yng nghyfnod olaf eu gyrfaoedd?                                                                                                                                                                                                                        Ond does dim amheuaeth mai Usman Khawaja oedd stori fawr y gêm hon, gyda chanred yn y ddau fatiad ar ôl dychwelyd i dîm Awstralia am y tro cyntaf ers dwy flynedd a hanner. Y batiwr llaw chwith yw’r trydydd batiwr erioed i gyflawni’r gamp o ganred yn y ddau fatiad ar gae’r SCG, a dim ond y chweched batiwr yn hanes Awstralia i gyflawni’r gamp – Warren Bardsley, Arthur Morris, Steve Waugh, Matthew Hayden a Steve Smith yw’r gweddill. Ar ôl dod i mewn i’r tîm yn absenoldeb Travis Head, bydd e’n sicr o roi pen tost i’r dewiswyr ar gyfer y prawf olaf.