Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn obeithiol o ganfod “datrysiad pragmataidd” i helynt clwb pêl-droed ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Fe ddaeth i’r amlwg y gall Clwb Pêl-droed Caer fod wedi torri rheolau Covid-19 drwy gael torf wrth iddyn nhw chwarae yn Lloegr, a hynny am fod eu cae yng Nghymru.

Mae’r clwb yn poeni y gallen nhw fynd i’r wal pe na bai modd iddyn nhw gael torfeydd ar gyfer gemau.

Maen nhw’n chwarae yn Adran y Gogledd y Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr, ond oherwydd lleoliad eu cae, mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn cyfyngiadau Cymru.

Mae’r un yn wir am dimau Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam, sy’n methu cael cefnogwyr ar gyfer gemau cartref, ond mae’r cefnogwyr yn gallu teithio i Loegr ar gyfer gemau oddi cartref.

CPD Caer

Mae Stadiwm Caer Swansway yn croesi’r ffin.

Mae’r brif fynedfa, y maes parcio a drws y brif swyddfa yn Lloegr, ond mae’r cae yng Nghymru.

Mae hynny, mewn gwirionedd, yn golygu y gall pobol yng Nghymru barcio neu fynd i mewn i’r swyddfa ond nid i’r cae i wylio gemau.

Dywed Mark Drakeford y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru’n trafod y mater gyda’r clwb, yr heddlu a’r awdurdodau lleol.

“Dw i eisoes wedi gofyn i fy uwch swyddogion gynnal trafodaethau heddiw gyda’r heddlu, gyda’r clwb, gyda’r awdurod lleol sy’n berchen y cae, awdurdod lleol Caer,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky.

“Dw i’n siŵr fod yna ddatrysiad pragmataidd synhwyrol yma, ond dydy hynny ddim yn golygu bod y clwb yn cael ei roi yn y fantol, ond nid yw’n golygu bod y gyfraith yn cael ei thorri chwaith.”

Roedd 2,075 o bobol yn y cae i wylio’r gêm yn erbyn Fylde ar Ragfyr 28, a thorf o 2,116 ar gyfer y gêm yn erbyn Telford ar Ionawr 2.

Ond mae’r clwb bellach wedi cael gwybod gan Heddlu’r Gogledd a Chyngor Sir y Fflint y gall fod rheolau Covid-19 wedi’u torri, a’u bod nhw mewn perygl o wneud hynny eto pe baen nhw’n rhoi’r hawl i dorfeydd fynd i ragor o gemau.

Mae’r clwb yn ystyried eu hunain yn glwb Seisnig ac mae ganddyn nhw gyfeiriad yn Lloegr, ond maen nhw’n ystyried eu camau nesaf pe baen nhw’n cael eu hunain mewn dŵr poeth yng Nghymru ac yn ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch yr helynt.

Does ganddyn nhw ddim gêm gartref arall tan Ionawr 15, pan fyddan nhw’n croesawu Brackley.