Sgoriodd dau Gymro wrth i dîm pêl-droed Caerdydd guro Preston o 2-1 ar ôl amser ychwanegol yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Oddi ar droed yr eilydd Mark Harris ddaeth y gôl fuddugol, a hynny bedair munud cyn diwedd amser ychwanegol.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ôl 41 munud drwy Isaak Davies, ond unionodd Daniel Johnson y sgôr o’r smotyn ar ôl 54 munud yn dilyn tacl flêr gan Ciaron Brown.

Roedd hi’n edrych yn debygol fod y gêm am fynd i giciau o’r smotyn, cyn i Gaerdydd wrthymosod gyda phedwar chwaraewr yn erbyn dau.

Fe wnaeth Davies yn iawn gyda’i gôl am fethu cyfle euraid yn gynnar yn y gêm a fyddai wedi rhoi ei dîm ar y blaen.

Manteisiodd e ar groesiad Tom Sang, a gafodd ei wyro i’w lwybr oddi ar James Collins.

Gallai Harris fod wedi sgorio yn hanner cynta’r amser ychwanegol, ond daeth arbediad gan Daniel Iversen i’w atal.

Lerpwl, oddi cartref, fydd eu gwrthwynebwyr yn y bedwaredd rownd a hynny ddechrau mis Chwefror.