Gyda gemau lu yn cael eu gohirio dros gyfnod y Nadolig oherwydd covid, dychwelodd y byd pêl droed i ryw fath o normalrwydd y penwythnos hwn wrth i bob un o gemau trydedd rownd y Cwpan FA oroesi. Cyfle cyntaf ers tro i ambell Gymro greu argraff felly.
*
Cwpan FA Lloegr
Mae Caerdydd ym mhedwaredd rownd y Cwpan ar ôl curo Preston o ddwy gôl i un ddydd Sul diolch i goliau dau Gymro ifanc. Rhoddodd Isaak Davies yr Adar Gleision ar y blaen gyda gôl unigol dda yn yr hanner cyntaf, a hynny ar ôl cael ei feirniadu’n gyhoeddus gan y rheolwr, Steve Morrison, yn dilyn y gêm ddiwethaf yn erbyn Bournemouth.
Wedi i Preston unioni pethau, roedd angen hanner awr ychwanegol i setlo pethau. Ac ar ôl dod yn agos yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol, rhwydodd yr eilydd, Mark Harris, y gôl holl bwysig bum munud o’r diwedd.
Dechreuodd Will Vaulks a Rubin Colwill i Gaerdydd hefyd, daeth Kieron Evans oddi ar y fainc ond aros arni a wnaeth George Ratcliffe. Nid oedd Kieffer Moore yn y garfan wrth i’r sïon gynyddu ei fod ar ei ffordd i Bournemouth am ddeg miliwn o bunnau.
Nid oedd Andrew Hughes yng ngharfan Preston yn erbyn clwb ei ddinas enedigol ond fe wnaeth Cymro arall ymddangos oddi ar y fainc, Ched Evans yn chwarae’r rhan fwyaf o’r amser ychwanegol i’r ymwelwyr.
Caerdydd a fydd yr unig dîm o Gymru yn y rownd nesaf wedi i Abertawe golli yn erbyn Southampton nos Sadwrn. Enillodd yr ymwelwyr o dair gôl i ddwy wedi amser ychwanegol er iddynt chwarae rhan helaeth o’r gêm gyda deg dyn. Dechreuodd Brandon Cooper yn amddiffyn yr Elyrch a Liam Cooper yn yr ymosod. Nid oedd Ben Cabango yn y garfan ond roedd Daniel Williams ar y fainc.
Straeon mawr y drydedd rownd a oedd buddugoliaethau Boreham Wood yn erbyn Wimbledon a Kidderminster Harriers yn erbyn Reading. Dechreuodd David Stephens i Boreham Wood ac roedd Alex Penny yn rhan o dîm Kidderminster.
Cafwyd y gêm fwyaf cyffrous yn Oakwell wrth i Barnsley drechu Barrow o bum gôl i bedair. Cyn chwaraewr Y Seintiau Newydd, James Jones, a oedd un o sgorwyr Barrow.
Roedd y penwythnos wedi dechrau gyda chrasfa i Swindon gan Man City. Ni wnaeth Jonny Williams ddechrau’r gêm ond fe wnaeth greu argraff oddi ar y fainc, yn creu gôl gysur Harry McKirdy.
Harry Wilson a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Fulham drechu Bristol City wedi amser ychwanegol dydd Sadwrn, gôl braidd yn ffodus wrth i’w groesiad guro pawb a nythu yng nghefn y rhwyd. Roedd Andy King yn nhîm y gwrthwynebwyr.
Creu yn hytrach na sgorio a wnaeth Sorba Thomas wrth i Huddersfield daro nôl i guro Burnley o ddwy gôl i un. Daeth y Cymro i’r cae fel eilydd ugain munud o’r diwedd gyda’i dîm gôl i ddim ar ei hôl hi. Creodd gôl i Josh Koroma o fewn munudau cyn i Matty Pearson benio’r gôl fuddugol o’i gic gornel yn y munudau olaf. Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey i Burnley er iddo chwarae ambell gêm gynghrair dros yr ŵyl. Mae Connor Roberts yn parhau i fod allan o’r garfan.
Roedd ymddangosiad prin iawn i un o gôl-geidwaid arall Cymru, Danny Ward rhwng y pyst wrth i Gaerlŷr guro Watford o bedair gôl i un. Roedd Dave Cornell yn y gôl i Peterborough wrth iddynt guro Bristol Rovers o ddwy gôl i un hefyd.
Dechreuodd Fin Stevens fuddugoliaeth gyfforddus Brentford dros Port Vale ac roedd Gwion Edwards yn nhîm Wigan a gurodd Blackburn o dair i ddwy.
Roedd buddugoliaeth i Chris Mepham a Bournemouth nos Sadwrn gyda’r amddiffynnwr yn creu’r gyntaf o dair gôl Emiliano Marcondes yn erbyn Yeovil gyda phas hir gywir o’r cefn.
Dechreuodd George Thomas i QPR yn erbyn Rotherham ond roedd wedi ei eilyddio cyn i’w dîm fynd ymlaen i ennill o wyth i saith ar giciau o’r smotyn!
Roedd munudau gwerthfawr i Joe Rodon ddydd Sul wrth i Tottenham guro Morecambe o dair gôl i un. Chwaraeodd Ben Davies y naw deg munud i Spurs hefyd tra’r oedd Kyle Letheren a Callum Jones ar y fainc i’r gwrthwynebwyr.
Roedd tri Chymro yn nhîm Stoke wrth iddynt guro Leyton Orient o ddwy gôl i ddim, James Chester a Morgan Fox yn yr amddiffyn a Joe Allen yng nghanol cae.
Colli a fu hanes Jordan James gyda Birmingham, Tom Lawrence gyda Derby a Tom Bradshaw gyda Millwall ddydd Sadwrn.
Mae ymgyrch Cwpan FA Chris Gunter, Dan James a Rhys Norrington-Davies drosodd hefyd yn dilyn colledion Charlton, Leeds a Sheffield United brynhawn Sul. Roedd munud neu ddau i Charlie Caton fel eilydd hwyr yn Anfield wrth i’r Amwything golli o bedair gôl i un yn erbyn Lerpwl.
Ymweliad Arsenal â’r City Ground i wynebu Nottingham Forest a oedd y gêm hwyr nos Sul, gyda Brennan Johnson yn dechrau i’r tîm cartref ac yn chwarae ei ran yn unig gôl y gêm, yn dechrau gwrthymosodiad a arweiniodd at gôl Lewis Grabban saith munud o’r diwedd.
*
Cynghreiriau is
Roedd gemau cynghrair i ambell dîm a oedd allan o’r Cwpan eisoes ac roedd gêm fawr ar frig yr Adran Gyntaf rhwng Sunderland a Wycombe. Tair gôl yr un a oedd hi gyda Sam Vokes a Joe Jacobson yn dechrau i’r Wanderers ac yn sgorio, y capten Jacobson yn achub pwynt i’w dîm gyda gôl yn yr wythfed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Nid oedd Nathan Broadhead yng ngharfan Sunderland ar ôl dioddef anaf cas dros y Nadolig.
Roedd Cymro ymhlith y sgorwyr wrth i Ipswich guro Gillingham o bedair gôl i ddim hefyd, Wes Burns yn rhwydo’r ail. Dechreuodd Lee Evans i Fois y Tractor hefyd.
Dechreuodd Owen Evans yn y gôl i Cheltenham am y tro cyntaf y tymor hwn yn eu gêm gyfartal yn erbyn Burton a chwaraeodd Regan Poole ym muddugoliaeth Lincoln o ddwy gôl i ddim dros Rydychen.
Yn yr Ail Adran, cadwodd Tom King lechen lân i Salford yn erbyn ei gyn glwb, Casnewydd, dwy gôl i ddim y sgôr ar Rodney Parade. Dechreuodd Liam Shephard yn erbyn ei gyn gyflogwr hefyd ac roedd Aaron Lewis a Lewis Collins yn nhîm yr Alltudion.
*
Yr Alban a thu hwnt
Nid oedd gemau yn Uwch Gynghrair yr Alban oherwydd toriad y gaeaf ond nid felly yn y Bencampwriaeth. Ildiodd Owain Fôn Williams bum gôl wrth i Dunfermline golli’n drwm yn Greenock Morton.
Nid oedd gemau i Rabbi Matondo a James Lawrence oherwydd toriad yn nhymhorau Gwlad Belg a’r Almaen hefyd.
Mae Gareth Bale yn parhau i fod allan o garfan Real Madrid ac er bod Aaron Ramsey yn swyddogol yn chwaraewr Juventus o hyd, mae’r Cymro ar ei ffordd yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr yn y ffenestr drosglwyddo bresennol heb os.
Colli fu hanes Ethan Ampadu wrth i Venezia groesawu AC Milan i’r Stadio Pier Luigi Penzo ddydd Sul, tair i ddim y sgôr terfynol o blaid yr ymwelwyr.