Mae’r Cymro Mark Williams wedi curo pencampwr y Meistri, Yan Bingtao, yn rownd gynta’r gystadleuaeth yn Llundain.

Sgoriodd Yan rediadau o 64, 71 a 57 wrth fynd ar y blaen o dair ffrâm i un erbyn yr egwyl, ond enillodd Williams o Went bedair ffrâm yn olynol.

Daeth eiliad euraid y gêm pan darodd Williams ergyd ar y bêl binc a’i photio ag un llaw wrth ddianc o drafferthion yn y bumed ffrâm.

Tarodd Yan yn ôl gyda 122, ond sgoriodd Williams 40 ac 85 yn y ddwy ffrâm nesaf i gipio’r fuddugoliaeth yn yr Alexandra Palace.

“Mae hi jyst yn braf cael chwarae o flaen torf,” meddai’r Cymro wrth y BBC wedyn.

“Adre, rydyn ni’n dal o dan gyfyngiadau (Covid-19), felly mae cael dod yma a chwarae gerbron y dorf ffantastig hon yn wych.

“Yr arena yma, fwy na thebyg, yw’r orau dw i wedi chwarae ynddi.”