Bydd dau o gyn-reolwyr tîm pêl-droed Abertawe’n herio’i gilydd ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, ar ôl i Nottingham Forest gipio buddugoliaeth fawr dros Arsenal.

Bydd tîm Steve Cooper yn herio Caerlŷr, tîm Brendan Rodgers, yn y bedwaredd rownd.

Daeth Lewis Grabban oddi ar y fainc a sgorio o groesiad Ryan Yates wrth y postyn pellaf i sgorio unig gôl y gêm ar ôl 82 munud.

“Dw i’n falch dros y chwaraewyr,” meddai Cooper, sy’n hanu o Gwm Rhondda.

“Mae’r cefnogwyr yn haeddu hynny gymaint ag unrhyw un.

“Fe wnaethon ni fwynhau’r gêm.

“Roedd yn un roedd yn rhaid i ni ymroi iddi, roedd yn rhaid i ni fynd i mewn iddi â meddylfryd positif oherwydd yr her.

“Rydyn ni yma i gystadlu, rydyn ni yma i chwarae’n dda ac i ennill gemau.

“Roedden ni’n ei haeddu, chafodd Arsenal yr un ergyd ar y gôl.

“Wnaethon ni fethu cyfleoedd da, efallai y gallen ni fod wedi cael cic o’r smotyn ac roedd gyda ni lawer o chwarae gosod.

“Sgorion ni gôl, sef symudiad rhagorol y gêm.

“Yn dactegol, roedden ni’n wych, a dyna pam na chawson nhw’r un ergyd ar y gôl. Mae hynny’n cymryd cryn dipyn yn erbyn Arsenal, felly pob clod i’r bois am ymrwymo i gynllun y gêm, am ganolbwyntio ac am weithredu ag awch gwirioneddol.”