Mae’r chwaraewr tenis Novak Djokovic wedi ennill apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod rhoi fisa iddo cyn Pencampwriaeth Agored Awstralia.
Fe wnaeth y Barnwr Anthony Kelly yn Llys Cylchol Ffederal Awstralia orchymyn bod Llywodraeth Awstralia yn talu costau cyfreithiol, ac yn ei adael yn rhydd o’r ddalfa o fewn hanner awr.
Mae cyfreithiwr Llywodraeth Awstralia, Christopher Tran, wedi rhoi gwybod i’r llys y bydd y Gweinidog Mewnfudo, Alex Hawke – yn hytrach na’r gweinidog wnaeth wrthod y fisa iddo yn y lle cyntaf – nawr yn ystyried a yw am ddefnyddio ei bwerau personol i wrthod rhoi fisa i Djokovic.
Roedd yr awdurdodau wedi dweud nad oedd y chwaraewr yn cwrdd â’r gofynion ar gyfer cael ei eithrio rhag bod angen iddo gael ei frechu’n llawn yn erbyn Covid-19.
Treuliodd bedair noson mewn gwesty i ddal mewnfudwyr yn ninas Melbourne cyn i’r gwrandawiad ddechrau heddiw (Ionawr 10).
‘Cymysgedd ddryslyd’
Yn gynharach heddiw, cafodd Djokovic ei ryddhau o’r ddalfa er mwyn bod gyda’i gyfreithwyr yn ystod yr achos llys, lle cafodd dadleuon eu cyflwyno o’i blaid gan ei gyfreithwyr.
Siaradodd cyfreithiwr y llywodraeth am hanner awr cyn i’r Barnwr ddod i benderfyniad, a thynnodd y Barnwr sylw at eithriad meddygol Djokovic.
Fe wnaeth y llys orchymyn ddoe (dydd Sul, Ionawr 9) y dylid rhyddhau Djokovic o’r Park Hotel, a’i symud i “leoliad fel sydd wedi’i nodi gan gyfreithwyr yr ymgeisydd” yn ystod y gwrandawiad.
Wrth drafod eithriad meddygol Djokovic, dywedodd y Barnwr Anthony Kelly fod “yma athro a meddyg cymwysedig sydd wedi cynhyrchu a chyflwyno eithriad meddygol i’r ymgeisydd”.
“Ynghyd â hynny, cafodd yr eithriad hwnnw, a’r sail y cafodd ei roi iddo, ei roi ar wahân gan banel arbenigol annibynnol arall gan lywodraeth talaith Victoria, ac roedd y ddogfen honno yn llaw’r cynrychiolydd,” meddai.
Mae cyfreithiwr Djokovic, Nicholas Wood, wedi dadlau bod y bwriad i wrthod ei fisa yn ddiffygiol oherwydd ei fod wedi’i wneud “ar gymysgedd ddryslyd o ddwy sail”.
Fe wnaeth ddadlau hefyd na chafodd Djokovic gyfle rhesymol i ymateb i’r hysbysiad i ganslo ei fisa.
“Anaddas” gwneud gorchmynion pellach
Mae Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi gwrthod gwneud sylw ar y dogfennau a gafodd eu cyflwyno i’r llys gan y llywodraeth sy’n awgrymu y gallai Djokovic gael ei gadw yn y ddalfa er ei fod wedi ennill yr apêl.
Roedd y dogfennau’n annog y llys i “wyrdroi’r penderfyniad a’r costau yn unig”, gan ddweud ei bod hi’n “anaddas gwneud unrhyw orchmynion pellach”.
“Nid yw gorchymyn ar gyfer ei ryddhau ar unwaith yn atal ei ail-ddal os oes pŵer i’w ddal,” meddai.
Daeth i’r amlwg o’r dogfennau a gafodd eu cyflwyno gan gyfreithwyr Djokovic ei fod wedi dal Covid-19 fis diwethaf.
Yr haint oedd sail eithriad meddygol Djokovic, meddai’r dogfennau.
Roedd y dogfennau hefyd yn nodi ei fod wedi “synnu” ac wedi “drysu” pan gafodd wybod fod ei gais am fisa wedi cael ei wrthod “o ystyried ei fod (hyd y gŵyr) wedi gwneud popeth oedd angen iddo ei wneud i gael mynediad i Awstralia”.
Dywedodd Adran Materion Cartref Awstralia mewn dogfen a gafodd ei chyflwyno i’r llys “nad oes yna’r fath beth â sicrwydd o fynediad i bobol nad ydyn nhw’n ddinasyddion” i’r wlad, gan nodi bod gan y Gweinidog y pŵer i atal ei fisa am yr eildro petai’r llys yn ochri â Djokovic.