Mae dau Aelod Seneddol Cymreig – Simon Hart a Jo Stevens – wedi bod yn dadlau ar Twitter am sefyllfa bresennol Clwb Pêl-droed Caer.

Daw hyn ar ôl awgrym fod y clwb wedi torri rheolau Covid-19 Cymru drwy gael torf – wrth chwarae yng nghynghrair Lloegr ond ar eu cae yng Nghymru.

Maen nhw’n chwarae yn Adran y Gogledd y Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr, ond oherwydd lleoliad eu cae, mae lle i gredu bod rhaid iddyn nhw ddilyn cyfyngiadau Cymru.

Mae’r un yn wir am dimau Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam, sy’n methu cael cefnogwyr ar gyfer gemau cartref, ond mae’r cefnogwyr yn gallu teithio i Loegr ar gyfer gemau oddi cartref.

Roedd 2,075 o bobol yn y cae i wylio’r gêm yn erbyn Fylde ar 28 Rhagfyr, a thorf o 2,116 ar gyfer y gêm yn erbyn Telford ar 2 Ionawr.

Ond mae’r clwb bellach wedi cael gwybod gan Heddlu’r Gogledd a Chyngor Sir y Fflint y gall fod rheolau Covid-19 wedi’u torri, a’u bod nhw mewn perygl o wneud hynny eto pe baen nhw’n rhoi’r hawl i dorfeydd fynd i ragor o gemau.

Mae’r clwb yn ystyried eu hunain yn glwb Seisnig ac mae ganddyn nhw gyfeiriad yn Lloegr, ond maen nhw’n ystyried eu camau nesaf pe baen nhw’n cael eu hunain mewn dŵr poeth yng Nghymru ac yn ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch yr helynt.

Does ganddyn nhw ddim gêm gartref arall tan 15 Ionawr, pan fyddan nhw’n croesawu Brackley.

Ddoe (dydd Sul, 9 Ionawr), dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio canfod “datrysiad pragmataidd” i’r sefyllfa.

‘Synnwyr cyffredin’

Mewn datganiad ar Twitter, galwodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, am “synnwyr cyffredin”, gan honni mai Cyngor Sir Caer sydd yn gyfrifol am y clwb ac nad ydyn nhw wedi derbyn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

“Dw i ddim yn deall y dryswch gyda Chlwb Pêl-droed Caer – ac a ydyn nhw’n mynd yn groes i reolau Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Maen nhw yng nghynghrair Lloegr, o dan Gyngor Sir Caer, wedi’u plismona gan Heddlu Sir Caer.

“Nid ydynt hyd yn oed yn derbyn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

“Unrhyw siawns o ryw synnwyr cyffredin?”

Fodd bynnag, eglurodd Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, fod y clwb wedi derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Sir y Fflint ym mis Mehefin 2020.

“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddosbarthu cymorth busnes Covid drwy awdurdodau lleol,” meddai.

“Derbyniodd Clwb Pêl-droed Caer gymorth ariannol gan Gyngor Sir y Fflint ym mis Mehefin 2020 ac mae hynny wedi’i gadarnhau yn gyhoeddus.

“Gallwch ddarllen amdano yma.”

‘Pêl-droed wleidyddol’

Y person diweddaraf i ymuno â’r ddadl yw Andrew Morris, cadeirydd Clwb Pêl-droed Caer.

“Roedd cysylltiad penodol rhwng y grant yr ydych yn cyfeirio ato â’r fasnach lletygarwch ac roedd yn gynllun ledled y Deyrnas Unedig,” meddai wrth ymateb i Jo Stevens.

“Gweinyddwyd ceisiadau am gyllid drwy’r awdurdod trwyddedu (alcohol) sef Sir y Fflint.

“Yn wahanol i glybiau eraill, ni chawsom gynnig grantiau na chymorth ariannol o Gaerdydd.

“Rwy’n fwy na pharod i drafod ffeithiau’r mater hwn gyda chi neu unrhyw wleidydd arall gan ei fod yn fater difrifol sy’n ymwneud â dyfodol clwb cymunedol yn cael ei droi’n bêl-droed wleidyddol.”