Mae wyth dyn wnaeth erlyn Manchester City ar ôl honni iddyn nhw gael eu cam-drin gan y pedoffil Barry Bennell dros 30 mlynedd yn ôl, wedi colli brwydr yn yr Uchel Lys.

Mae’r wyth dyn, sydd bellach yn eu 40au a’u 50au, yn dweud bod Bennell, sydd bellach yn 68 oed, wedi eu cam-drin pan oedden nhw’n chwarae pêl-droed i dimau ysgol yr oedd yn eu hyfforddi yng ngogledd-orllewin Lloegr rhwng 1979 a 1985.

Fe wnaeth Mr Ustus Johnson orffen goruchwylio’r achos yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Rhagfyr.

Honnodd y dynion fod Bennell, a ddaeth yn hyfforddwr yn Crewe Alexandra yn 1985, yn sgowt i Manchester City yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedden nhw’n dadlau bod y berthynas rhwng Bennell a’r clwb yn “gyflogaeth neu’n debyg i gyflogaeth”.

Hawliodd yr wyth dyn iawndal am anafiadau seiciatrig a hawliodd chwech ohonyn nhw iawndal hefyd am golli enillion pêl-droed posibl.

Dywedodd Mr Ustus Johnson nad oedd y cysylltiad rhwng y gamdriniaeth a pherthynas Bennell â Manchester City yn ddigonol i arwain at iawndal.

“Rhoddodd y berthynas gyfle i Bennell gyflawni’r gamdriniaeth, ond nid oedd MCFC wedi ymddiried yn Bennell i edrych ar ôl lles y chwaraewyr,” meddai’r barnwr.

“Mae’n dilyn nad yw’n ymddangos mai MCFC sy’n gyfreithiol gyfrifol am weithredoedd cam-drin Bennell.

“Mae pob hawliad felly yn cael ei wrthod.”

Dywedodd Bennell, a roddodd dystiolaeth drwy gyswllt fideo o HMP Littlehey, ger Huntingdon yn Swydd Gaergrawnt, lle mae’n cael ei gadw, mai’r “realiti” oedd nad oedd “byth” yn hyfforddwr i Manchester City ac, “ar ôl 1978/1979”, nid oedd gan dimau iau a hyfforddodd “unrhyw gysylltiad o gwbl” â’r clwb.

‘Syfrdanu a’n siomi’

Dywedodd y cyfreithiwr David McClenaghan, oedd yn cynrychioli’r dynion ac yn gweithio i’r cwmni cyfreithiol Bolt Burdon Kemp, y byddai apêl yn cael ei lansio.

“Mae fy nghleientiaid a minnau wedi ein syfrdanu a’n siomi gan benderfyniad yr Uchel Lys i wrthod dyfarnu iawndal sylweddol iddynt yn eu hawliadau yn erbyn Clwb Pêl-droed Manchester City am gamdriniaeth a ddioddefwyd yn nwylo Barry Bennell,” meddai.

“Nid ydym yn derbyn bod y penderfyniad yn gywir a byddwn yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn y llysoedd uwch lle rydym yn hyderus y byddwn yn sicrhau’r canlyniad cywir a chyfiawn.

“Mae fy nghleientiaid yn hynod siomedig ag ymddygiad Clwb Pêl-droed Manchester City.”