Mae Ryan Sidebottom, hyfforddwr dros dro Clwb Criced Swydd Efrog, yn cyfaddef iddo ddefnyddio “geiriau gwael” wrth awgrymu y dylid “anghofio” am helynt hiliaeth y sir.

Daeth sylwadau’r cyn-fowliwr cyflym, oedd wedi ymuno â thîm hyfforddi’r clwb yr wythnos ddiwethaf, wrth iddo fe siarad â Sky Sports.

Mae Darren Gough, un arall o gyn-chwaraewyr y sir, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Criced a Steve Harmison, cyn-fowliwr cyflym Durham a Lloegr, wedi’i benodi’n hyfforddwr, wrth iddyn nhw geisio sefydlogi’r clwb yn dilyn ymadawiad yr holl staff hyfforddi o ganlyniad i honiadau Azeem Rafiq iddo gael ei sarhau’n hiliol yn ystod dau gyfnod yn chwarae i’r sir.

Arweiniodd yr honiadau at ymadawiadau’r cadeirydd Roger Hutton a’r prif weithredwr Mark Arthur, a chafodd y Cyfarwyddwr Criced Martyn Moxon a hyfforddwr y tîm cyntaf, Andrew Gale, eu diswyddo.

“Mae hi wedi bod yn anodd gwylio, yn anodd gwrando, a gweld y cyfryngau cymdeithasol,” meddai Sidebottom mewn cyfweliad.

“Mae wedi bod yn anodd iawn am lawer o resymau i lawer o bobol.

“Gadewch i ni geisio anghofio amdano.

“Does dim lle i hiliaeth mewn unrhyw agwedd ar fywyd a gobeithio nawr y gallwn ni symud ymlaen, datrys pethau, gwneud y peth iawn a chael Swydd Efrog yn tanio eto.

“Ond mae yna fisoedd anodd wedi bod i Swydd Efrog ac i bawb yn y clwb.”

Ymateb Azeem Rafiq

Mae Azeem Rafiq wedi ymateb yn chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol i’r sylwadau.

“Gadewch i ni beidio ag ‘anghofio amdano’, yn sicr,” meddai.

“Dysgwch oddi wrtho fe a gwneud pethau’n well.

“Trueni na fyddai mor hawdd ag anghofio am y peth ac esgus na ddigwyddodd unrhyw beth.”

Ymddiheurodd Ryan Sidebottom yn ddiweddarach, gan ddweud “na ddylen ni fyth anghofio” a bod “rhaid i ni ddysgu”.

“Do’n i byth wedi meddwl dweud anghofio,” meddai.

“Roedd fy newis o eiriau’n anghywir, ac yn gamgymeriad gonest.

“Dyma’r hyn roeddwn i’n ei olygu. Dw i’n anghytuno’n llwyr â gwahaniaethu ac yn llwyr gefnogol o bob ymchwiliad a gweithred ynghylch unrhyw gamdriniaeth hiliol yng Nghlwb Criced Swydd Efrog.

“Yn fy nghyfweliad gyda Sky Sports, defnyddiais i’r gair ‘anghofio’. Nid dyna roeddwn i’n ei olygu.

“Doeddwn i ddim yn golygu y dylid anghofio am y sefyllfa, i’r gwrthwyneb, rhaid i ni beidio byth ag anghofio, roedd yn ddewis gwael o eiriau.”

Mae ymchwiliad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn parhau.

Azeem Rafiq

Clwb Criced Swydd Efrog wedi’i gefeillio gyda thîm o Bacistan ar ôl helynt hiliaeth

Gobaith y bydd y bartneriaeth gyda’r Lahore Qalandars yn “lleihau’r rhwystrau i bobol ifanc” o’r gymuned Asiaidd i fentro i’r byd criced
Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn canmol “diwylliant iach” yr academïau sirol

Mae Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol wrthi’n cyflwyno rhaglenni amrywiaeth a chynhwysiant yn sgil helynt Azeem Rafiq
Sajid Javid

Hiliaeth: awdurdodau chwaraeon ‘ddim yn gwneud digon’

Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn ymateb i’r ffrae yn y byd criced
Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth

Y siroedd dosbarth cyntaf yn cytuno ar gynllun gweithredu 12 pwynt