Ken Owens yw’r chwaraewr diweddaraf i weld ei obeithion o chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn deilchion, a bydd ei absenoldeb “yn ergyd drom” i Gymru, yn ôl y sylwebydd Cennydd Davies.
Mae’n debyg y bydd y bachwr yn colli allan ar y bencampwriaeth oherwydd anaf hirdymor i’w gefn, sydd eisoes wedi ei weld yn methu Cyfres yr Hydref y llynedd.
Daw hyn ar ôl cyfres o anafiadau eraill i chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys y capten Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, George North, Leigh Halfpenny a Josh Navidi.
Bydd pob un o’r chwaraewyr hynny, mae’n debyg, yn absennol ar gyfer y twrnament, sy’n dechrau ddydd Sadwrn, Chwefror 5, gyda gornest rhwng Iwerddon a Chymru yn Nulyn.
Bydd rhaid i Wayne Pivac ystyried chwaraewyr sydd â llai o brofiad ar gyfer y gêm agoriadol, felly, a gobeithio y bydd gweddill ei sêr ar gael i herio’r Gwyddelod.
Esgidiau gwag y capten
Mae Ken Owens wedi ennill 82 o gapiau dros Gymru ac wedi chwarae pum gêm brawf i’r Llewod.
Byddai’r gŵr 35 oed wedi bod yn un o’r opsiynau amlycaf i arwain y tîm yn y Chwe Gwlad eleni, yn dilyn anaf i ysgwydd y capten arferol Alun Wyn Jones.
“Mae e’n ergyd drom achos mae Ken yn bresenoldeb anferth ar y cae ar fwy nag un ystyr,” meddai Cennydd Davies wrth golwg360.
“Mae e’n arwain drwy esiampl, a fe efallai fyddai’r dewis naturiol yn absenoldeb Alun Wyn Jones, felly mae’r opsiynau’n brin os nag yw e ar gael.
“Byddai Justin Tipuric, pe bai e’n ffit, yn un arall fyddai wedi gallu camu i rôl y capten, ond dydy e ddim ar gael chwaith.
“Yr hyn fyddwn i’n crybwyll yw bod angen i’r capten fod yn sicr o’i le, ac mae’n rhaid ei fod yn chwarae’r pum gêm os yn ffit, felly pan rydych chi’n edrych o amgylch y garfan, yna mae’n anodd dewis capten.
“Y rheiny sy’n dod i’r meddwl wedyn fyddai rhywun fel partner Alun Wyn Jones yn yr ail reng, Adam Beard, rhywun sydd wedi arwain y Gweilch, sy’n ddibrofiad o ran arwain ar lefel ryngwladol, ond efallai byddai e ar y rhestr fer.
“Un arall, byddwn i’n tybio, yw Dan Biggar, ond mae’n dibynnu sut mae’n effeithio ar ei dymer e ar y cae.
“Mae’n rywun, dw i’n tybio, fydd yn sicr o’i le, sy’n brofiadol, ffyrnig ar y cae, yn gystadleuol, a byddai e’n arwain drwy esiampl yn ogystal.
“Ond does dim dwywaith, mae’r anafiadau yn siomedig, a dyw’r cwpwrdd ddim yn llawn ar hyn o bryd.
“Mae’n mynd i fod yn hynod anodd, achos dyw’r dyfnder, dw i’n poeni, ddim gyda Chymru i ymdopi gydag absenoldebau, ac fe wnaethon ni weld hynny yn yr Hydref, er gwaethaf buddugoliaeth ffodus yn erbyn Awstralia.”
Cyfle i’r genhedlaeth newydd
Er yr absenoldebau, dywed Cennydd Davies y bydd y bencampwriaeth yn gyfle i chwaraewyr ifanc a llai profiadol wneud argraff ar yr hyfforddwyr, fel ddigwyddodd yng Nghyfres yr Hydref 2020.
“Roedd rhaid i Wayne Pivac, flwyddyn yn ôl i’r Hydref, fuddsoddi mewn to newydd o chwaraewyr,” meddai.
“Heb y cyfle hwnnw, fydden ni ddim wedi gweld James Botham, Callum Sheedy ac ati, felly mae’n rhaid rholio’r dis weithiau.
“Mae Taine Basham wedi gwneud yn wych, ac un arall dw i’n credu fydd yn y garfan efallai yw Jac Morgan – dyna’r un safle dydyn ni ddim yn fyr o opsiynau yw’r blaenasgellwyr.
“Mae yna safleoedd penodol lle rydyn ni’n fyr, yn enwedig safle’r bachwr nawr bod Ken wedi mynd, a’r ail reng o bosib.
“Rwy’n credu y bydd rhaid i Wayne Pivac i raddau ddatblygu’r to ifanc beth bynnag oherwydd mae llai na dwy flynedd tan Cwpan y Byd yn Ffrainc.
“Fydd llawer o’r chwaraewyr o bosib ddim gyda ni yn Ffrainc beth bynnag, fel Alun Wyn Jones, Ken Owens, bydd Dan Biggar flwyddyn yn hŷn hefyd, felly mae’n rhaid i ni ddatblygu dyfnder.
“Efallai bydd rhaid i ni fynd drwy ryw gyfnod anodd a phrofi poen yn y tymor byr er mwyn profi llwyddiant yn y tymor hir.”
Camp Lawn neu’r Llwy Bren?
Wrth drafod gobeithion Cymru yn y bencampwriaeth, roedd Cennydd Davies yn credu y bydd Cymru yn “gystadleuol” er gwaetha’r rhwystrau.
“Mae tair gêm gartref, mae hynny’n gwneud gwahaniaeth,” meddai.
“Dyw hi ddim yn mynd i fod yn rhwydd i’r gleision sy’n dod i Gaerdydd – Ffrainc, Yr Eidal a’r Alban.
“Er bod Ffrainc wedi curo Seland Newydd, dyw eu record nhw ddim yn wych yng Nghaerdydd felly fe ddylai bod Cymru’n gystadleuol yn y gemau hynny.
“Os ennill y gemau cartref, dw i’n credu y byddai hynny’n dderbyniol o ystyried y sefyllfa, ac wedyn rydych chi’n trio gweld os allwch chi selio buddugoliaeth oddi cartref.
“Maen nhw’n dechrau gyda’r dasg anoddaf un, mae’n siŵr, ma’s yn Iwerddon, yn erbyn tîm sydd newydd guro’r Crysau Duon.
“Mae [Iwerddon] yn dîm hyderus, mae eu taleithiau nhw’n creu argraff yn y ddwy gystadleuaeth clwb, a dydy Cymru heb ennill ma’s yn Nulyn ers 10 mlynedd bellach, felly mae honno’n mynd i fod yn dasg aruthrol.
“Colli honna, ac mae’r gêm nesaf wedyn yn erbyn yr Alban yn dod yn un mae’n rhaid iddyn nhw ei hennill.
“Felly mae’n debyg iawn i bob ymgyrch i Gymru – mae popeth yn y fantol yn y gêm gyntaf.
“Os ennill y gêm gyntaf, a dw i wedi gweld hyn pan maen nhw wedi ennill y Gamp Lawn, mae rhyw sbardun yn dod i’r ymgyrch.
“Bydden i’n disgwyl iddyn nhw fod yn gystadleuol, ond dw i ddim yn credu y gallwch chi ddechrau ymgyrch mewn lle anoddach na Dulyn ar hyn o bryd.”