Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu Andy Fisher o MK Dons am swm sydd heb ei gadarnhau.

Mae’r golwr 23 oed yn symud o MK Dons, lle bu’n gweithio â’r rheolwr Russell Martin cyn iddo symud i’r Elyrch.

Mae e wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd a hanner i’w gadw gyda’r Elyrch tan fis Mehefin 2026, a bydd e’n gwisgo’r rhif 33 ar ei gefn.

Llofnododd ei gytundeb cyntaf gyda Blackburn yn 2016, gan chwarae pedair gwaith yn y gwpan.

Treuliodd e gyfnodau ar fenthyg yn FC United of Manchester a Northampton yn 2019, ond roedd ei drosglwyddiad i MK Dons yn hwb i’w yrfa.

Symudodd i’r clwb yn barhaol yn ystod haf 2020, gan fynd yn ei flaen i chwarae mewn 39 o gemau y tymor canlynol, a 23 yn rhagor y tymor hwn.

Ar y rhestr o lechi glân i’r clwb, mae Andy Fisher yn bumed.

Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi cyhoeddi y bydd eu golwr Steven Benda yn treulio gweddill y tymor ar fenthyg yn Peterborough.