Mae Clwb Pêl-droed Caer wedi gohirio’u gêm gartref yn erbyn Brackley ddydd Sadwrn (Ionawr 15).

Mae’r clwb yn chwarae ar gae yng Nghymru, ond yng Nghynghrair Lloegr, sydd wedi arwain at ddryswch ynghylch pa reolau Covid-19 ddylen nhw fod yn eu dilyn.

O ganlyniad i’r dryswch, maen nhw wedi cael eu cyhuddo o dorri rheolau Cymru drwy gael torfeydd yn y cae, lle mae’r fynedfa, y brif eisteddle a’r swyddfa docynnau yn Lloegr ond y cae a rhannau eraill o’r stadiwm yng Nghymru.

Ond maen nhw’n mynnu mai i Loegr maen nhw’n perthyn, ac felly nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ond mae amheuaeth eu bod nhw hefyd wedi derbyn arian gan awdurdodau yng Nghymru.

Er bod cefnogwyr wedi’u hatal rhag mynd i gemau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eithrio caeau bach lle gall hyd at 50 o bobol ymgynnull, does dim cyfyngiadau ar dorfeydd yn Lloegr, sy’n golygu bod modd i gefnogwyr clybiau yng Nghymru deithio oddi cartref ond nid i fynd i gemau yn eu stadiwm eu hunain.

Dau Aelod Seneddol Cymreig yn dadlau am sefyllfa Clwb Pêl-droed Caer

Honiadau bod y clwb o Loegr, sydd â’u stadiwm yng Nghymru, wedi torri rheolau Covid-19 Cymru ar ôl cael torf

Mark Drakeford yn gobeithio am “ddatrysiad pragmataidd” i helynt clwb pêl-droed ar y ffin

Mae Clwb Pêl-droed Caer yn chwarae yn Lloegr ond mae lleoliad eu cae yn golygu ei bod hi’n bosib eu bod nhw wedi torri rheolau Covid-19 o gael torf