Mae Aaron Ramsey wedi profi’n bositif am Covid-19 ac yn hunanynysu, yn ôl ei glwb Juventus yn yr Eidal.

Daeth cadarnhad o’r prawf positif neithiwr (nos Lun, Ionawr 11), wrth i’r Cymro gael ei gysylltu â throsglwyddiad i ffwrdd o’r clwb sy’n chwarae yn y brif adran, Serie A.

Ymunodd y Cymro Cymraeg â’r clwb fis Gorffennaf 2019, ar ôl 11 mlynedd gydag Arsenal.

Mae e wedi’i gysylltu â’r clwb yng ngogledd Llundain eto’n ddiweddar, ac mae Newcastle a Burnley hefyd yn y ras, yn ôl adroddiadau.

Mae ei gyfnod yn Juventus wedi bod yn un anodd oherwydd anafiadau.

Dydy e ddim wedi dechrau gêm i’w glwb ers gêm gynta’r tymor, ac mae e wedi’i ddisgrifio gan y rheolwr Massimiliano Allegri fel “chwaraewr sydd ar ei ffordd allan”.