Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd y llywodraeth yn edrych ar lacio cyfyngiadau Covid-19 cyn yr adolygiad yr wythnos nesaf.

Ond mae Mark Drakeford yn mynnu bod hyn yn ddibynnol ar y cyngor gwyddonol wrth i Gymru barhau i fod yng nghanol “storm Omicron”.

Yn ystod Cwestiynau Prif Weinidog Cymru, y tro cyntaf i’r sesiwn gael ei chynnal eleni, fe wnaeth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, feirniadu cyfyngiadau Cymru ar chwaraeon.

Cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno wedi’r Nadolig, ar Ragfyr 26, sy’n golygu nad oes mwy na 50 o bobol yn gallu mynd i ddigwyddiad chwaraeon proffesiynol.

Mae cyfyngiadau pellter cymdeithasol ar waith mewn busnesau, ac mae’r rheol chwech yn berthnasol mewn lleoliadau lletygarwch fel tafarndai a bwytai.

“Yr wythnos nesaf fydd diwedd y cyfnod adolygu tair wythnos,” meddai’r prif weinidog.

“Os ydym yn ffodus iawn, ac mae’n ‘os’ mawr iawn, ac rydym yn canfod ein bod wedi pasio’r brig hwnnw a bod gostyngiad dibynadwy mewn achosion, yna byddwn yn edrych i weld beth gallwn ei wneud, fel y dywedais, wrth lacio rhai o’r cyfyngiadau sydd ar waith.

“Ond ni wnawn hynny nes ein bod yn hyderus bod y cyngor gwyddonol a meddygol yn caniatáu ei fod yn ddiogel i symud ymlaen gyda hynny.

“Storm” Omicron

Ychwanegodd Mark Drakeford ein bod yn parhau i fod yng nghanol “storm Omicron”.

“Cyn gynted ag y cawn gyngor ei bod yn ddiogel gwneud hynny, yna wrth gwrs, byddwn am ddechrau gwrthdroi’r daith yr ydym wedi gorfod bod arni tra bod Cymru yn nannedd y storm Omicron,” meddai.

“A gadewch imi fod yn glir, Lywydd: dyna lle’r ydym.

“Rydym yn dal i wynebu pwysau ac effeithiau enfawr coronafeirws.”

‘Rhoi’r gorau i gyfyngiadau’

Galwodd Andrew RT Davies ar Mark Drakeford i roi’r gorau i reolau sydd wedi gwneud “gweithgareddau fel ParkRun yn amhosib i’w trefnu”.

O ddydd Llun, fe fydd cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored mawr yn yr Alban, gan gynnwys gemau pêl-droed a chyngherddau, yn cael eu codi.

Bydd y cam yn caniatáu i gefnogwyr ddychwelyd i stadiymau yn ogystal ag osgoi’r angen i gemau rygbi’r Chwe Gwlad yn yr Alban gael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caëedig ym Murrayfield fis nesaf.

Mae cyfyngiad o 500 o bobol mewn torf ar gyfer digwyddiadau awyr agored mewn grym yn yr Alban ers Gŵyl San Steffan.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban, galwodd Andrew RT Davies am fap ffordd ynghylch pryd fydd Llywodraeth Cymru yn codi cyfyngiadau.

 

“Siomedig iawn fe wrthododd Prif Weinidog Llafur ymrwymo i gyhoeddi map ffordd o’r cyfyngiadau,” meddai ar Twitter.

“O ParkRuns i’r Chwe Gwlad – a phopeth yn y canol – mae angen eglurder ar deuluoedd a busnesau ledled Cymru ac mae’n haeddu cynllun.”

Wedi’r sesiwn ar lawr y Siambr, ychwanegodd Andrew RT Davies fod angen i’r Prif Weinidog ddileu’r cyfyngiadau.

“Mae’n rhaid dileu’r cyfyngiadau hurt ar chwaraeon ac ymarfer corff ddydd Gwener,” meddai.

Fe alwodd Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ar i’r Prif Weinidog “ystyried codi’r nifer fwyaf o gefnogwyr fel y gall chwaraeon ar lawr gwlad weithredu, ac yn achos clybiau mwy, efallai traean neu hanner capasiti’r stadiwm, cyn belled â bod ymbellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau yn eu lle”.

Bydd Mark Drakeford yn rhoi diweddariad i Gymru ar y cyfyngiadau mewn cynhadledd ddydd Gwener (Ionawr 14).

Nawr yn “adeg ryfedd iawn” i awgrymu cael gwared ar brofion llif unffordd am ddim

Cadi Dafydd

Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n beirniadu awgrymiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth roi diweddariad ar sefyllfa Covid Cymru