Mae nawr yn “adeg ryfedd iawn” i Lywodraeth y Deyrnas Unedig awgrymu y gallai profion llif unffordd rhad ac am ddim ddod i ben yn yr wythnosau nesaf, meddai Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11), dywedodd Eluned Morgan nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gael gwared ar brofion llif unffordd am ddim.

Dros y penwythnos, ymddangosodd adroddiad yn y Sunday Times yn dweud y gallai profion am ddim gael eu cyfyngu i gartrefi gofal, ysbytai, ysgolion a phobol â symptomau.

Mae Nadhim Zahawi, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, wedi diystyru’r adroddiad, ond wrth siarad â Sky News ddoe (dydd Llun, Ionawr 10) fe wnaeth Michael Gove wrthod gwadu y gallai’r profion ddod i ben yn yr wythnosau nesaf.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n amser rhyfedd iawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig chwifio’r fflag hon, i awgrymu mai nawr yw’r amser i gael gwared ar brofion llif unffordd ar adeg pan mae’r feirws ar ei gryfaf,” meddai Eluned Morgan.

“Dyw hynny ddim yn rhywbeth rydyn ni am fod yn ei wneud yng Nghymru.

“Gallwch fod yn sicr y bydd y rheiny’n parhau i fod am ddim, yn sicr yn ystod y cyfnod difrifol eithriadol hwn.”

Yn y gynhadledd, dywedodd Eluned Morgan bod achosion o Covid-19 ar eu huchaf erioed yng Nghymru ar y funud.

Ar hyn o bryd, mae dros 1,000 o gleifion â Covid-19 mewn ysbytai dros Gymru, a dyna’r lefel uchaf erioed mis Mawrth 2021.

Parti diweddaraf Downing Street

Mewn beirniadaeth bellach tuag at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Eluned Morgan bod yr honiadau am barti arall yng ngardd Downing Street ym mis Mai 2020 “tu hwnt i grediniaeth”.

Mae pwysau cynyddol ar Boris Johnson i ymddiswyddo ar ôl i ITV ddatgelu bod Martin Reynolds, prif ysgrifennydd preifat Boris Johnson, wedi anfon e-bost at fwy na 100 o weithwyr yn eu gwahodd i barti yng ngardd Downing Street,

“Petaem ni’n cofio’n ôl i’r hyn oedd yn digwydd fis Mai 2020, roedd e tua adeg fwyaf difrifol yr holl argyfwng,” meddai Eluned Morgan.

“Dw i’n meddwl am yr aberthon wnaeth gymaint o bobol yng Nghymru ar y pryd, yr aberth o beidio gallu ffarwelio ag anwyliaid mewn ysbytai, aberthu drwy beidio gallu gadael eu cartrefi a pheidio gallu gweld eu hanwyliaid, methu gallu estyn at y cymorth oedd gymaint o bobol ei angen ar y pryd.

“I gael hynny wedi’i wrthgyferbynnu â sefyllfa lle’r oedd parti’n digwydd yn Downing Street, mae tu hwnt i grediniaeth.”

Dywedodd ei bod hi’n gobeithio y bydd Boris Johnson yn “gwneud ei ddyletswydd” ac adrodd i Dŷ’r Cyffredin heddiw.

Mae’r Blaid Llafur wedi cael yr hawl i ofyn cwestiynau brys am y partïon, ond nid yw Boris Johnson yno i’w hateb.

“Ei gyfrifoldeb ef yw arwain o’r blaen, ac i arwain drwy esiampl,” meddai.

“Mae gen i ofn ein bod ni wedi gweld eto ei fod wedi methu rhoi atebion clir iawn i gwestiynau syml iawn, a dw i’n meddwl bod y cyhoedd yn haeddu gwybod beth oedd yn digwydd a sut nad yw’n cofio sefyllfa’r oedd e’n rhan ohoni mewn rhyw ffordd, yn ôl y tebyg.

“Dw i’n meddwl ei fod yn tanseilio awdurdod y prif weinidog, ac wedi arwain at sefyllfa lle nad yw’n gallu ymgymryd â’r cyngor rydyn ni wedi bod yn ei dderbyn gan ein hymgynghorwyr o ran cyflwyniad cyfyngiadau newydd, gan fod pobol yn debygol o fod yn llai parod i’w dilyn, [yn sgil] yr esiampl gan brif weinidog sydd ddim yn dilyn ei reolau ei hun.”

Y Chwe Gwlad?

Fe wnaeth Eluned Morgan ailadrodd yr hyn ddywedodd Mark Drakeford ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud ei bod hi’n annhebygol y caiff cyfyngiadau eu llacio nes y bydd achosion Covid-19 yn “lefelu, o leiaf, a gostwng”.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl y bydd Nicola Sturgeon yn cyhoeddi brynhawn heddiw y bydd y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau mawr tu allan yn cael eu codi yn yr Alban, ac y bydd mwy na 500 o bobol yn cael cyfarfod unwaith eto.

Pe bai hynny’n digwydd, mae’n debyg y byddai’n bosib chwarae gemau’r Chwe Gwlad yno o flaen torfeydd.

“Galla i roi sicrwydd i chi ein bod ni’n awyddus i ddatod unrhyw gyfyngiadau cyn gynted ag y gallwn, rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n ofyniad cyfreithiol arnom ni i wneud hynny,” meddai Eluned Morgan.

“Ond rydyn ni mewn sefyllfa lle mae’r pandemig wirioneddol dal gyda ni, rydyn ni’n cadw golwg agos iawn ar yr ystadegau sy’n dod mewn ar y funud.

“Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n gweld sefydlogi yn y rhifau hynny, yn amlwg, dw i’n meddwl y byddai hi’n amlwg i ni lacio pethau os yw’r rhifau’n dal i godi.

“Pan mae hi’n dod at y Chwe Gwlad, rydyn ni’n meddwl bod gennym ni dal beth amser cyn mae rhaid gwneud y penderfyniadau hynny.

“Rydyn ni’n trafod hyn y Cabinet yn barod, ond fel dw i’n dweud, mae hi’n annhebygol y byddwn ni’n gweld llacio’r cyfyngiadau hynny nes ydyn ni’n gweld lefelu, o leiaf, ac achosion yn dod lawr o’r brig eithriadol o uchel rydyn ni’n ei weld ar y funud.

“Gadewch i ni fod yn glir am le’r rydyn ni yn y broses, rydyn ni’n gweld y lefel uchaf o achosion rydyn ni wedi’i gweld drwy gydol y pandemig dal yn ein cymunedau heddiw.

“Fyddai nawr ddim yn amser call i ni lacio’r cyfyngiadau hynny.”

Dywedodd Eluned Morgan nad oes gan Lywodraeth Cymru fwriad i gwtogi’r cyfnod hunanynysu o 7 niwrnod i bum niwrnod chwaith, ond eu bod nhw’n parhau i ddilyn cyngor arbenigwyr.

Brig ton Omicron

Er bod peth sefydlogi mewn achosion Covid yn y dyddiau diwethaf, mae hi’n rhy gynnar i ddweud a ydy brig y don hon o achosion wedi pasio, meddai Eluned Morgan.

Dros y saith niwrnod hyd at Ionawr 6, roedd y gyfradd yn 1,780.5 i bob 100,000 o’r boblogaeth.

“Byddai’n wych petaem ni’n gallu gweld y sefydlogi yna’n parhau, a’r gwymp sydd wedi dod gyda’r data,” meddai.

“Ond dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus ar y funud, achos mae yna ambell ffactor wedi dod mewn.”

Cyfeiriodd Eluned Morgan at y newid yn y ffordd mae pobol yn cael eu profi, gan ddibynnu ar brofion llif unffordd ar gyfer achosion asymptomatig, a’r ffaith nad yw hi’n bosib gweld effaith ailagor ysgolion ar yr achosion eto.

“Rydyn ni eisiau cadw llygad ar y sefyllfa am y tro, dw i’n meddwl ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud os ydyn ni wedi cyrraedd y brig eto.”

Mae’r don hon o achosion Omicron yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus hefyd, meddai Eluned Morgan, gan gynnwys drwy effeithio ar staff y Gwasanaeth Iechyd.

Mae tua 8% o staff y Gwasanaeth Iechyd yn absennol o’r gwaith ar hyn o bryd, naill ai drwy hunanynysu neu salwch yn sgil Covid, sy’n gyfystyr â 10,000 o staff – y nifer uchaf ers mis Ebrill 2020.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth £12.5m i helpu pobol i ymdopi yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty ac i sicrhau bod fferyllfeydd yn gallu cynnig gwasanaeth i bobol heb fod angen meddyg teulu heddiw.

Mae tua 1,000 o barod i adael ysbytai Cymru ar y funud, ond yn methu â gwneud hynny gan nad yw’r offer a’r cyfarpar addas ganddyn nhw yn eu cartrefi.

Bydd offer megis lifftiau grisiau, systemau troi cleifion ac offer teleofal eu darparu i gartrefi gyda’r cyllid hwn, sydd am leihau’r angen am welyau mewn ysbytai.

“Helpwch ni i’ch helpu chi’r gaeaf hwn,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd

Wrth gyhoeddi cyllid ychwanegol, dywedodd Eluned Morgan fod angen i “bob un ohonom gydweithio i gefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol”