Mae’r heddlu mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gabinet ynghylch honiadau bod ymgynghorydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi trefnu parti yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Fe wnaeth Martin Reynolds, prif ysgrifennydd preifat Boris Johnson, yrru e-bost at fwy na chant o weithwyr yn Downing Street ym mis Mai 2020 yn gofyn iddyn nhw “ddod â’u diodydd eu hunain” ar gyfer y parti, yn ôl ITV.

Yn yr e-bost, dywedodd Martin Reynolds y dylen nhw “wneud y mwyaf o’r tywydd hyfryd”, er bod cyfyngiadau Covid-19 llym yn eu lle yn Lloegr ar y pryd oedd yn gwahardd pobol rhag cyfarfod tu allan ar gyfer rhesymau cymdeithasol.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n trafod gyda’r Swyddfa Gabinet yn dilyn galwadau gwleidyddol am ymchwiliad i’r honiadau.

“Mae Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan yn ymwybodol o’r adroddiad eang ynghylch achosion honedig o dorri’r Rheoliadau Amddiffyn Iechyd yn Downing Street ar 20 Mai 2020, ac maen nhw mewn cysylltiad â Swyddfa’r Cabinet,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.

‘Drewi o safonau dwbl’

Mae sawl adroddiad wedi awgrymu bod Boris Johnson wedi bod yn y parti gyda’i wraig, Carrie.

Fe wnaeth y Prif Weinidog osgoi cwestiynau ddoe (dydd Llun, Ionawr 10) am ei ran yn y parti.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y dylai’r “rhai sy’n gyfrifol wynebu grym llawn y gyfraith” os cafodd rheolau eu torri.

Dywedodd Alistair Carmichael, llefarydd materion cartref y blaid, fod “y parti yn yr ardd yn edrych fel achos clir o dorri rheolau’r cyfnod clo ar adeg pan oedd hi’n orchymyn ar y cyhoedd i aros adref”.

“Dywedodd Boris Johnson ei hun ychydig ddyddiau ar ôl y parti hwn y dylai’r heddlu gamu mewn a stopio pobol rhag ymgynnull tu allan,” meddai.

“Mae e’n drewi o safonau dwbl os nad yw’r heddlu’n ymchwilio i’r honiadau hyn yn llawn.”

Ymchwiliad

Roedd Heddlu Llundain wedi trydar ar y diwrnod y cafodd y parti honedig ei gynnal, yn dweud y gallai pobol gael picnic neu wneud ymarfer corff tu allan cyn belled â’u bod nhw ar eu pennau eu hunain, “gyda phobol rydych chi’n bwy â nhw, neu os mai dim ond chi ac un person arall sydd yno”.

Defnyddiodd y cyn-Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden gynhadledd i’r wasg y diwrnod hwnnw i atgoffa’r cyhoedd eu bod nhw’n “gallu cyfarfod un person o du allan i’w haelwyd mewn lle cyhoeddus tu allan cyn belled â’ch bod chi’n cadw dwy fetr ar wahân”.

Mae Rhif 10 wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylwadau ar yr honiadau tra bod Sue Gray, yr uwch was sifil, yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau niferus am ddigwyddiadau a gafodd eu cynnal yn Downing Street yn groes i’r rheolau Covid.

Mae Downing Street wedi gwadu adroddiadau bod Martin Reynolds yn cael ei symud i swydd arall.

“Mae gan y Prif Weinidog hyder llawn yn ei dîm. Does dim newid i’r swydd honno,” meddai llefarydd wrth ohebwyr.

“Mae yna broses annibynnol yn mynd yn ei blaen i edrych ar hyn, yn cael ei harwain gan Sue Gray, ac ni allai wneud sylwadau pellach tra bod hynny’n digwydd.”

Bydd ymchwiliad Sue Gray yn edrych ar yr honiadau am y parti ar Fai 20, yn ogystal â digwyddiad arall a gafodd ei gynnal yng ngardd Rhif 10 bum niwrnod ynghynt a gafodd ei ddatgelu drwy lun yn dangos y Prif Weinidog a’i staff yn eistedd o amgylch bwrdd gyda chaws a gwin.

‘Gwarth’

Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn annog Sue Gray i gadarnhau y bydd yr e-bost gan Martin Reynolds yn rhan o’i hymchwiliad.

“Mae’n ofnadwy, a dw i’n meddwl y bydd nifer o bobol sy’n gweld y dystiolaeth yn gweld ei bod hi’n gwbl annerbyniol fod Boris Johnson a Rhif 10 yn torri’r rheolau pan ddywedwyd wrthym ni am eu dilyn nhw, yn ogystal â meddwl bod celwydd Boris Johnson yn dechrau dal i fyny ag e.

“Mae’n warth, a dylai fod ganddo gywilydd.”

Dylai’r heddlu ymchwilio’r achos pe bai ymchwiliad Sue Gray yn dod i’r canlyniad bod rheolau coronafeirws wedi’u torri, meddai.

‘Tystiolaeth mewn du a gwyn’

“Does dim angen ymchwiliad i hyn. Tystiolaeth mewn du a gwyn fod y Torïaid yn yfed tra bod y gweddill ohonom mewn cyfnod clo,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth ymateb i’r helynt.

“Gyda phob diwrnod y mae Boris Johnson yn aros yn ei swydd, mae’r achos dros annibyniaeth yn tyfu’n gryfach.”