Mae Catalwnia wedi lansio CatVers, y metafyd (metaverse) cyntaf yn yr iaith Gatalaneg.

Mae metafydoedd yn cyfeirio at realiti 3D rhithiol, lle mae technolegau digidol yn dod ynghyd er mwyn teneuo’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd digidol.

Technoleg ymgolli (immersive) yw’r enw ar y math hynny o brofiadau, gan eu bod nhw’n creu’r ymdeimlad o ymgolli.

Yn ddiweddar, mae Facebook wedi ailfrandio fel Meta, gan ddangos pwysigrwydd bydoedd ymgolli i gwmnïau technoleg.

Mae’r CatVers yn lleoliad digidol agored, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Ganolfan Blockchain Catalonia (CBCat), gyda chefnogaeth y llywodraeth a Chanolfan Fasnach Barcelona.

‘Arloesi’

Ers ddoe (dydd Llun, Ionawr 10), mae hi’n bosib i sefydliadau gynnal cyfarfodydd ym metafyd Catalwnia, ac mae disgwyl i weithgareddau amrywiol gael eu cynnal yno dros y misoedd nesaf, gan gynnwys arddangosfa gelf a gwyliau cerddorol.

Bydd CatVers am ddim am y ddeufis cyntaf ond ar ôl hynny, bydd cyfraddau “fforddiadwy” yn cael eu cyflwyno.

Dywed Jordi Puigneró, dirprwy arlywydd Catalwnia, mai’r “unig ffordd i amddiffyn i genedl” yw drwy “gael presenoldeb ar yr amgylcheddau newydd hyn”.

“Mae Catalwnia wastad wedi bod eisiau arloesi,” meddai.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y prosiect yn dod yn “gynaliadwy yn economaidd” yn fuan, gan ddweud ei fod yn sector drawsnewidiol sydd am newid y rhyngrwyd fel rydyn ni’n ei adnabod.

Mae cynlluniau ar y gweill i greu campws prifysgol rhithiol o fewn CatVers yn hwyrach eleni, er mwyn cael ei ddefnyddio ym mhrifysgolion y wlad.

Dywed Mònica Roca, llywydd Siambr Fasnach Barcelona, y bydd y technolegau sy’n dod ynghyd mewn metafydoedd yn “trawsnewid y byd”.

“Mae’n rhaid i’r Gatalaneg a diwylliant Catalwnia fod yn bresennol yn y chwyldro technolegol hwn, ni allwn ni gael ein gadael ar ôl.”