Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau bod 184 yn rhagor o aelodau’r lluoedd arfog yn cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sydd dan bwysau o ganlyniad i Covid-19.

Maen nhw ar gael yn ystod misoedd y gaeaf i helpu i gyflymu’r ymateb i alwadau brys.

Mae 129 o staff milwrol yn helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru ers mis Hydref, ac mae’r 184 o staff ychwanegol yn y gwaith ers wythnos bellach, sy’n golygu bod 313 ohonyn nhw bellach yn cynorthwyo gwasanaethau yng Nghymru.

Byddan nhw’n gweithio yng Nghymru tan ddiwedd mis Mawrth ar ôl derbyn hyfforddiant trylwyr, ac yn gweithredu fel gyrwyr ychwanegol, gan helpu i leddfu’r pwysau ar staff y gwasanaeth o ganlyniad i’r pandemig.

Byddan nhw’n helpu i sicrhau y gall y gwasanaeth ymdopi â’r lefel uchel o alwadau, gan gynnwys y rhai lle mae bywydau yn y fantol.

“Bydd cefnogaeth gan 184 aelod o staff milwrol ychwanegol yn sicrhau y gall gwasanaethau ambiwlans Cymru barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n achub bywydau ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf,” meddai Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan.

Dyma’r trydydd tro i’r Lluoedd Arfog gefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ers dechrau’r pandemig ym Mawrth 2020.

Cafodd 68 aelod o staff eu lleoli yng Nghymru y mis canlynol, ac yn Rhagfyr 2020, roedd 120 aelod o staff milwrol yn cefnogi staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan gynnwys meddygon o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Mae lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a’u harbenigedd, gan eu bod unwaith eto yn cefnogi gwaith allweddol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.

“Trwy gydol y pandemig, mae nifer fawr o staff milwrol wedi camu i’r adwy i gefnogi gwasanaethau iechyd ledled Cymru drwy ddosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE), gyrru ambiwlansys, cynorthwyo unedau profi cymunedol, a rhoi’r rhaglen frechu ar waith.

“Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwallu anghenion holl wledydd y Deyrnas Unedig.”

Yn ôl Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae’r staff milwrol “eisoes wedi gwneud gwaith anhygoel yn ein cefnogi ar ddau achlysur blaenorol”.

“Bydd cael cefnogaeth ein cydweithwyr o’r lluoedd arfog yn ein helpu i sicrhau bod mwy o ambiwlansys yn weithredol, fel y gallwn gyrraedd mwy o gleifion, a hynny’n gyflymach, tra bod y pwysau dwys iawn ar ein gwasanaethau yn parhau,” meddai.

“Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf a bydd cael cefnogaeth staff milwrol yn rhoi hwb i’n capasiti ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i ddarparu gwasanaeth diogel i bobol Cymru.”

Y rhaglen frechu

Daw’r cynnydd diweddaraf yn y gefnogaeth filwrol ar ôl i 98 o staff milwrol gael eu rhyddhau i gefnogi’r rhaglen brechlynnau atgyfnerthu yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf yn sgil yr amrywiolyn Omicron.

Bydd yr aelodau’n rhan o 14 tîm brechu, sy’n gymysgedd o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a phersonél sy’n cyflawni dyletswyddau cyffredinol, a byddan nhw’n gweithio i gefnogi staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gan weinyddu brechlynnau a darparu arbenigedd cynllunio.

Daw’r staff o’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr, a byddan nhw’n gweithio ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda dau dîm ym mhob ardal.

Mae eraill eisoes wedi bod yn helpu i gynnal unedau profi cymunedol a dosbarthu cyfarpar diogelu personol.

Mae 411 o staff milwrol ar gael bellach i helpu’r gwaith hwn yng Nghymru, a daw’r gefnogaeth trwy’r broses Cymorth Milwrol i Awdurdodau Sifil – ers mis Mawrth 2020, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymateb i fwy na 440 o geisiadau trwy’r broses hon ledled y Deyrnas Unedig.