Mae dadl frys wedi cael ei galw yn y Senedd ynglŷn â’r penderfyniad i ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio serfigol o dair blynedd i bum mlynedd.
Mae’r newid wedi’i wneud yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig gan fod y prawf sgrinio sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn fwy effeithiol na’r un blaenorol.
Fodd bynnag, arweiniodd y cyhoeddiad at ofn a dicter y gallai’r newidiadau arwain at gynnydd mewn marwolaethau, yn enwedig ymysg pobol sydd heb dderbyn y brechlyn HPV.
Cafodd nifer o ddeisebau eu lansio yn galw am wyrdroi’r penderfyniad, gan gynnwys un ar wefan change.org a wnaeth ddenu miliwn o lofnodion.
Roedd y ddeiseb swyddogol ar wefan y Senedd wedi casglu dros 30,000 o lofnodion erbyn iddi ddod i ben ddydd Sul (Ionawr 9).
‘Achub bywydau’
Yn y pwyllgor deisebau brynhawn ddoe (dydd Llun, Ionawr 10), dywedodd y cadeirydd, yr Aelod o’r Senedd Llafur Jack Sargeant, y byddai’n galw am ddadl frys yn y Senedd yn sgil cryfder y teimladau ymysg y cyhoedd.
Dywedodd hefyd nad yw’n cofio’r un ddeiseb yn tyfu mor sydyn.
Dywedodd Buffy Williams, yr Aelod Llafur dros y Rhondda, wrth y gwrandawiad fod ganddi ddwy ferch ac “mae meddwl bod y prawf yn digwydd bob pum mlynedd yn hytrach na thair yn peri pryder”.
“Dw i wir yn meddwl bod angen i’r ddeiseb ddod ymlaen ar gyfer ei thrafod oherwydd mae hi mor bwysig bod gan bob menyw a arwyddodd y ddeiseb lais,” meddai.
“Pan mae’r llythyr yn cyrraedd fy nrws, dw i’n ei agor a’i roi ar yr oergell, a bob tro dw i’n edrych arno ac yn meddwl, ‘O dw i angen bwcio apwyntiad gyda fy meddyg teulu i gael fy mhrawf sgrinio’, ond mae hynny’n gallu mynd ymlaen am wythnosau. Oherwydd mae bywyd yn mynd o’r ffordd, a dyw e ddim yn brofiad braf, dyw e ddim. Ond mae’n brofiad sy’n achub bywydau.
“Ond yn fy meddwl i, fydd e ddim bob pum mlynedd, bydd hi’n chwe blynedd erbyn yr amser mae nifer o bobol yn mynd.
“Mae e hefyd yn amser pan rydych chi’n mynd am brawf llesiant cyffredinol, neu fe allai fod yr unig amser pan fo rhywun sy’n dioddef trais yn y cartref yn gweld arbenigwr iechyd.
“Mae e mor bwysig, a dw i’n teimlo’n gryf iawn dros hyn, ei fod yn cael ei wneud yn amlach.”
Prawf sgrinio “mwy cywir”
Mewn datganiad, dywed yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan fod y newid wedi cael ei wneud ar ôl derbyn cyngor arbenigol gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, ar ôl iddyn nhw gynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywed hefyd fod y dystiolaeth yn dangos ei bod hi’n ddiogel ymestyn y bwlch.
“Mae tystiolaeth gadarnhaol wedi dangos bod y brechlyn wedi arwain at ostyngiad o tua 90% yn y bobol sydd â chelloedd a allai ddatblygu’n ganser,” meddai.
“Mae cyfuniad o imiwneiddio a’r sgrinio serfigol yn cynnig yr amddiffyniad gorau posib yn erbyn canser serfigol, ac rydyn ni’n disgwyl gweld gostyngiad sylweddol mewn canser serfigol yn y dyfodol agos.
“Hoffwn bwysleisio bod y newid hwn wedi’i wneud oherwydd bod y prawf sgrinio presennol yn fwy cywir na’r prawf blaenorol.
“Felly, mae angen prawf sgrinio llai aml ar y rhai nad oes ganddynt HPV.”
Ychwanegodd Dr Sharon Hill, cyfarwyddwr adran sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw’r “newid hwn ddim yn rhywbeth i arbed arian”.
“Mae e’n dod â Chymru’n unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn disgwyl i hyn newid faint o fenywod rydyn ni’n sylwi sydd â risg uwch o ddatblygu canser serfigol o gwbl.
“Byddwn ni’n cyfeirio’r un faint o fenywod ymlaen at wasanaethau colonoscopi.”