Mae llys wedi clywed bod dyn a gafodd ei ladd gan fwa croes yn ei gartref wedi rhoi dros £200,000 dros gyfnod o rai blynyddoedd i ddyn a ddaeth yn ffrind iddo fe a’i wraig.

Daeth Gerald Corrigan, 74, a’i bartner Marie Bailey, 67, yn ffrindiau i Richard Wyn Lewis yn 2015, gan roi symiau mawr o arian iddo dros gyfnod o bedair blynedd, gan gredu eu bod nhw’n buddsoddi mewn eiddo, gwerthiant tir a cheffylau.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd yr erlynydd nad oedd a wnelo’r rhesymau am ei farwolaeth y tu allan i’r gartref ym Môn ddim oll â’r honiadau o dwyll, ond fod y troseddau honedig wedi dod i’r amlwg pan siaradodd yr heddlu â Marie Bailey yn dilyn marwolaeth Gerald Corrigan.

Dywedodd fod Richard Wyn Lewis yn “dwyllwr”, a’i fod e wedi twyllo nifer o bobol fel eu bod nhw’n colli cannoedd os nad miloedd o bunnoedd ar y tro.

Yn eu plith roedd Gerald Corrigan a Marie Bailey, oedd yn ei ystyried yn “ffrind da y gellid ymddiried ynddo”.

Awgrymodd y diffynnydd y gallai Gerald Corrigan wneud elw drwy werthu ei gartref, Gof Du, i’w ddatblygu ac fe gysylltodd e â phrynwr posib, John Halsall, a dyn a gâi ei adnabod wrth yr enw David, oedd yn arfer gweithio mewn adran gynllunio.

Siaradodd Gerald Corrigan â’r dyn dros y ffôn, ond daeth yr heddlu i wybod yn ddiweddarach mai rhifau ffôn y diffynnydd oedden nhw.

Rhoddodd Gerald Corrigan arian iddo ar gyfer ceisiadau cynllunio, prynu tir cyfagos ac agor cyfrif banc newydd.

Ond doedd dim ceisiadau cynllunio na thir i’w brynu.

Talodd y pâr filoedd o bunnoedd am geffylau hefyd, wrth i Marie Bailey drosglwyddo £50,000 i gyfrif banc Siwan McLean, partner Richard Wyn Lewis, gan gredu ei bod hi’n prynu hen safle ysgol yn Llanddona i’w werthu i ddatblygwr.

Ond roedd pwyllgor y neuadd bentref eisoes wedi prynu’r adeilad bedwar mis cyn iddi drosglwyddo’r arian.

Cafodd y diffynnydd ei dalu gan Marie Bailey i fynd â’i char i’w werthu am arian metel, ond fe gafodd y car ei werthu am £5,300.

Mae lle i gredu bod y pâr wedi rhoi cyfanswm dros £20,000 i’r diffynnydd.

Marwolaeth Gerald Corrigan

Ddyddiau’n unig cyn marwolaeth Gerald Corrigan, rhoddodd e £200 o arian parod i Richard Wyn Lewis, gan ddweud mai dyna’r cyfan roedd e’n gallu ei fforddio.

Dywedodd wrth y diffynnydd nad oedd ganddo ragor o arian.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y pâr wedi tynnu £170,000 o’u cyfrif o’r adeg y gwnaethon nhw gyfarfod â Richard Wyn Lewis, gyda’r £50,000 drosglwyddodd Marie Bailey yn mynd â’r cyfanswm i £220,000.

Mae’r diffynnydd o Lanfair-yn-Neubwll ger Caergybi yn gwadu 11 cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Siwan McLean yn gwadu bod yn rhan o drefniadau i wyngalchu arian.

Mae’r achos yn parhau.