Mae Eluned Morgan yn galw ar y cyhoedd i “helpu” Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gaeaf.

Daw’r alwad wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd gyhoeddi rhagor o gyllid i liniaru’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn genedlaethol.

Bydd y £12.5m o gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i helpu pobol i ymdopi yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty ac i sicrhau bod fferyllfeydd yn gallu cynnig gwasanaeth i bobol heb fod angen meddyg teulu.

Yn ôl y llywodraeth, bydd hyn yn lleihau amseroedd aros a lliniaru pwysau ar y system.

Cyllid

Fel rhan o’r cyllid, bydd £10m yn cael ei ddosbarthu ar draws y 22 awdurdod lleol i brynu offer i bobol sydd ag anghenion gofal, ac i roi cymorth iddyn nhw fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Caiff offer megis lifftiau grisiau, systemau troi cleifion ac offer teleofal eu darparu i gartrefi gyda’r cyllid hwn, sydd am leihau’r angen am welyau mewn ysbytai.

Bydd gweddill y cyllid – sef £2.5m – yn cefnogi fferyllwyr a gwella mynediad cleifion at driniaethau penodol a chyngor meddygol.

Y bwriad gyda’r cyllid hwn yw annog cleifion i siarad gyda fferyllwyr cymunedol fel nad oes rhaid iddyn nhw ymweld â meddygon teulu a chynyddu’r pwysau arnyn nhw.

‘Helpu ni i’ch helpu chi’

“Mae’r pwysau sy’n wynebu’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn heriol iawn,” meddai Eluned Morgan.

“Mae angen i bob un ohonom gydweithio i gefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan ein helpu ni i’ch helpu chi’r gaeaf hwn.

“Gall pethau syml fel mynd i’r fferyllfa leol neu i uned mân anafiadau i gael cyngor ar bryderon iechyd nad ydynt yn ddifrifol, gwirio symptomau ar-lein gan ddefnyddio gwefan Gwasanaeth Iechyd Gwladol 111 Cymru neu gael brechlyn Covid-19 wneud gwahaniaeth mawr i’n Gwasanaeth Iechyd a helpu pobl i edrych ar ôl eu hiechyd y gaeaf hwn.

“Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau sy’n wynebu ysbytai a’r gweithlu mewn gwasanaethau cymunedol a gofal cymdeithasol drwy osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty a chefnogi pobl sydd ddim yn gallu cael eu rhyddhau o ysbytai ar hyn o bryd oherwydd diffyg llefydd gofal i ddychwelyd adref.”