Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ragor o gefnogaeth ariannol ar gyfer busnesau lletygarwch yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd y pandemig.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfyngiadau ar Ddydd San Steffan, a oedd yn cynnwys cau clybiau nos, ailgyflwyno’r rheol chwe unigolyn a gorfodi rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Fe wnaethon nhw gyhoeddi cronfa gwerth £120m ar gyfer busnesau a bydd modd i fusnesau hawlio cyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd o wythnos nesaf ymlaen.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu na fydd hyn yn ddigon i’w digolledu nhw am y cyfnod anodd maen nhw wedi ei brofi ers y Nadolig a thros y flwyddyn newydd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth pennaeth grŵp lletygarwch UKHospitality Cymru rybuddio bod angen rhagor o gymorth ariannol “ar frys” i fusnesau ar ôl cyfnod “trychinebus” yn ariannol.
Roedd nifer o fusnesau’n cefnogi’r alwad honno am gymorth, gydag un perchennog yn dweud ei bod hi’n “bwysig iawn” fod rhagor o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer y sector.
Galwad y Ceidwadwyr
Dywed Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen adeiladu ar y cyllid sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eisoes.
Mae e hefyd yn awyddus i weld y Llywodraeth yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer adfer o’r cyfyngiadau er mwyn rhoi eglurder i deuluoedd a busnesau.
“Mae’r arian sydd wedi’i gyhoeddi hyd yma i gefnogi’r diwydiant yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond mae angen i lawer mwy o arian fod ar gael yn enwedig gan fod cyfyngiadau yn parhau i fod mewn grym,” meddai.
“Rwyf wedi cael fy ngorlethu â llythyrau ac e-byst gan berchnogion busnes sy’n ofni bydd cronfa arian Llafur ddim hyd yn oed yn cyffwrdd â’r ochrau wrth adennill yr arian sydd wedi ei golli dros yr ŵyl a thalu am gostau staff.
“Mae angen i weinidogion Llafur ddarparu cynllun allan o gyfyngiadau fel bod busnesau’n gwybod pryd y gallan nhw ddychwelyd i fasnachu mor agos at normal â phosibl, ac mae angen iddyn nhw gynyddu’r cymorth ariannol sydd ar gael yn sylweddol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i sylwadau’r Ceidwadwyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw “wedi dibynnu ar wyddoniaeth a thystiolaeth” wrth ymateb i Covid-19 drwy gydol y pandemig.
“O ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron, sy’n lledaenu’n gyflym, mae Cymru ar lefel rhybudd dau ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o fusnesau ar agor ac yn gallu gweithredu ar hyn o bryd, ond rydym yn gwerthfawrogi bod y mesurau i ddiogelu’r cyhoedd a staff yn cael effaith ar fusnesau.
“Mae ein pecyn o gymorth ariannol brys, werth £120m, yn cynnwys busnesau yr effeithiwyd arnynt dros y cyfnod o 13 Rhagfyr 2021 tan 14 Chwefror 2022.
“Yn ogystal â hyn, cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid yn y gyllideb ddiweddar becyn ychwanegol o £116m o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau mewn sectorau sydd wedi dioddef waethaf, ar gyfer 2022-23, sy’n golygu y bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50%.
“Mae’r Cabinet yn adolygu’r sefyllfa yn wythnosol a bydd yn parhau i ystyried a oes angen cyllid cymorth busnes brys ychwanegol.”