Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ger Bethesda yr wythnos ddiwethaf.

Tua 5:50 brynhawn dydd Gwener (Ionawr 7), fe wnaeth un fan Renault Trafic ac un car Vauxhall Corsa daro i mewn i’w gilydd ar yr A5 rhwng y dref a Phont y Pandy.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y ddamwain ac mae bellach mewn cyflwr “sefydlog” yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Er hynny, maen nhw’n galw am unrhyw un a fu’n dyst i’r digwyddiad, neu sydd â deunydd dashcam, i gysylltu â nhw drwy sgwrs fyw ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 22000016427.

Ers y digwyddiad, mae rhai sy’n byw’n lleol wedi galw am ostwng y cyfyngiadau cyflymder sydd ar waith yn y rhan honno o’r A5 neu gyflwyno camerâu cyflymder yn yr ardal.