Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cynlluniau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drwsio cladin ar adeiladau isel.

Bydd Michael Gove, Ysgrifennydd Tai San Steffan, yn ceisio sicrhau £4bn gan ddatblygwyr i fynd tuag at dynnu cladin peryglus oddi ar adeiladau sydd rhwng 11 ac 18.5 metr o uchder.

Ysgrifennodd Gove at gwmnïau yn dweud bod ganddyn nhw tan fis Mawrth i gytuno ar gynllun i amddiffyn lesddeiliaid sydd wedi eu caethiwo mewn “tai na ellir eu gwerthu”.

Dywedodd fod rhai cwmnïau wedi “methu ag ysgwyddo eu cyfrifoldebau” wrth ddelio â’r mater.

Fe wnaeth Senedd Cymru bleidleisio’n unfrydol dros sicrhau diogelwch pobol sy’n byw mewn adeiladau â chladin ym mis Tachwedd, yn dilyn cyhuddiadau eu bod nhw’n “llusgo’u traed” wrth fynd i’r afael â’r argyfwng.

Mae galwadau cynyddol wedi bod ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i sicrhau bod diogelwch preswylwyr yn cael ei sicrhau, yn enwedig ar ôl tân Tŵr Grenfell yn 2017, a laddodd 72 o bobol.

‘Croesawu gyda breichiau agored’

Wedi’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n cefnogi’r cynlluniau.

Roedd hi’n cofio’n ôl i’r digwyddiad yn Nhŵr Grenfell yn Llundain – digwyddiad sydd wedi rhoi’r Ceidwadwyr dan bwysau, gyda rhai’n honni mai esgeulustod un o’u Llywodraethau nhw oedd un o’r ffactorau y tu ôl i’r tân.

“Rydyn ni i gyd yn cofio’n glir drasiedi erchyll Tŵr Grenfell, a gipiodd fywydau 72 o bobol,” meddai.

“Felly mae’n rhaid i unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein hadeiladau yn fwy diogel gael ei groesawu gyda breichiau agored.

“Mae’n glir o’r cyhoeddiad fod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cymryd y mater hwn o ddifrif, ac rwy’n gobeithio y bydd Mark Drakeford a’r gweinidogion Llafur yn gweithio gyda Michael Gove i wneud adeiladau Cymru yn fwy diogel a helpu preswylwyr.

“Gwaetha’r modd, mae Llafur yng Nghymru wedi bod yn llusgo’u traed ers gormod o amser pan mae’n dod i fater peryglus cladin, gan adael preswylwyr yn y tywyllwch – er eu bod nhw wedi cael bron i £60m i helpu perchnogion tai a lesddeiliaid i dalu am waith adferol.

“Heb unrhyw fai arnyn nhw, mae lesddeiliaid ar draws y wlad wedi cael eu gadael gyda biliau anferthol i drwsio problemau doedden nhw ddim yn gyfrifol amdanyn nhw a dydy hynny yn syml ddim yn dderbyniol.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam sydd ei angen yn fawr i’r cyfeiriad iawn.”

Pleidlais Senedd Cymru

Ym mis Tachwedd, fe wnaeth Aelodau o’r Senedd bleidleisio’n unfrydol o blaid Cynnig Ddeddfwriaethol i ddiogelu trigolion sy’n byw mewn adeiladau sydd â chladin.

Y nod yw sicrhau y bydd Bil Diogelwch Cladin yn cael ei gyflwyno maes o law er mwyn mynd i’r afael â diogelwch y deunydd fflamadwy sy’n gorchuddio nifer o adeiladau ar hyd a lled Cymru.

Bryd hynny, dywedodd Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru a gyflwynodd y cynnig, fod hyn yn gam yn agosach at sicrhau diogelwch trigolion pryderus.

“Mae eu rhwystredigaeth yn druenus a dylai’r angen am weithredu o ran adeiladu diogelwch ar gyfer fflatiau uchel fod yn flaenoriaeth i lywodraethau yn Llundain a Chaerdydd,” meddai’r Aelod dros Ganol De Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn credu na ddylai lesddeiliaid diniwed dalu am waith diffygiol gan ddatblygwyr.

“Yr wyf hefyd yn pryderu am yr effaith y mae’r sefyllfa’n ei chael ar iechyd meddwl trigolion.

“Dwi wedi cwrdd â llawer, ac mae’r straen yn amlwg ar eu hwynebau. Rhan o’r straen yw nad yw pobol yn cael atebion ynglŷn â phwy fydd yn gyfrifol am waith adferol.”