Mae ymgyrchwyr yn galw ar aelodau seneddol i wrthod y Bil Ariannu Niwclear yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Ionawr 10).

Bydd y Bil, fyddai’n golygu bod cwsmeriaid yn ariannu’r gwaith o adeiladu pwerdai niwclear newydd cyn iddyn nhw ddechrau cynhyrchu trydan, yn cael ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Byddai’r model ariannu newydd yn golygu bod biliau ynni yn cynnwys arian fyddai’n mynd tuag at adeiladu pwerdai newydd.

Mae disgwyl i’r model newydd helpu cwmni ynni EDF i godi arian i dalu am y gost o adeiladu pwerdy Sizewell C yn Suffolk.

Nod Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r model yw lleihau’r ddibyniaeth ar arian allanol, gan wneud prosiectau niwclear yn fwy deniadol i fuddsoddwyr yn y Deyrnas Unedig.

‘Treth niwclear’

Dan y fframwaith ariannol newydd, sef model yn seiliedig ar asedau sydd wedi’u rheoleiddio (regulated asset base model), byddai EDF yn dechrau casglu arian, trwy filiau ynni, ymhell cyn i’r adweithydd ddechrau cynhyrchu trydan.

Yn ôl grwpiau Pobol Atal Wylfa B Ynys Môn a Gwynedd, a grŵp CADNO, byddai cymeradwyo’r bil hwn yn “ychwanegu’n sylweddol at ein biliau trydan ar ffurf treth niwclear”.

“Mae’r bil hwn fyddai’n galluogi adeiladu adweithyddion niwclear newydd trwy ddefnyddio’r ‘regulated asset base model’ yn ffordd warthus o drethu’r cyhoedd yn drwm,” meddai Dylan Morgan, Robat Idris a Meilyr Tomos ar ran y mudiadau.

“Rydym eisoes yn wynebu biliau trydan a nwy digynsail o uchel.

“Byddai cymeradwyo’r Bil hwn yn ychwanegu’n sylweddol at ein biliau trydan ar ffurf treth niwclear ac yn ychwanegu baich ariannol enfawr ar bobl sy’n gorfod dewis rhwng bwyta a chadw’n gynnes yn barod.”

‘Achubiaeth eithafol o ddrud’

Ynghyd â hynny, byddai’r Bil yn rhoi mantais enfawr i’r sector niwclear dros ffynonellau cynhyrchu trydan adnewyddadwy hefyd.

“Mae’r Bil hwn yn rhoi mantais enfawr i’r sector niwclear dros ffynonellau cynhyrchu trydan adnewyddol sydd yn gallu cael eu darparu’n rhatach, cyflymach a diogelach nac ynni niwclear,” medden nhw.

“Mae ynni niwclear yn aruthrol o ddrud ac yn gwbl anghynaladwy yn amgylcheddol ac ariannol.

“Yr hyn mae’r llywodraeth yn ei gynnig yw achubiaeth eithafol o ddrud i dechnoleg sydd wedi methu, ac sy’n gwbl analluog i ddenu buddsoddiad preifat arwyddocaol.

“Mae hynny oherwydd natur gynhenid beryglus y dechnoleg, problemau diogelwch yr adweithyddion a phroblemau diddiwedd y tomenni o wastraff niwclear a gynhyrchwyd eisoes gan adweithyddion niwclear Prydeinig dros y 60 blynedd diwethaf, heb sôn am gynhyrchu gwastraff a fyddai hyd yn oed yn boethach, peryclach a mwy ymbelydrol o ddefnyddio wraniwm dwysach ‘high burn up’ mewn adweithyddion niwclear newydd.”

Pan aeth y Bil drwy ei wrandawiad cyntaf yn San Steffan, dywedodd gweinidog y Deyrnas Unedig dros ynni a thwf glân, y byddai’r ddeddfwriaeth yn helpu’r Deyrnas Unedig i “adeiladu’r gorsafoedd niwclear newydd rydyn ni eu hangen i sicrhau system drydan garbon isel, wydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

“Bydd y model ariannu hwn hefyd yn cefnogi diwydiant niwclear sifil llewyrchus y Deyrnas Unedig, sy’n cyflogi 60,000 o swyddi medrus ar y funud, ac yn helpu i greu miloedd o rai ychwanegol wrth i ni gydraddoli cyfleoedd dros yr holl wlad.”