Mae cynghorydd arall wedi gadael y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Powys, sy’n gadael y blaid â dim ond dwsin o gynghorwyr.

Y Cynghorydd Mark Barnes yw’r trydydd aelod o’r Cyngor i adael y grŵp dros y mis diwethaf am resymau gwahanol.

Bydd Barnes, sy’n cynrychioli ward Gorllewin Llanllwchaearn yn y Drenewydd, yn sefyll fel aelod annibynnol yn yr etholiad nesaf ac am y cyfnod tan hynny.

Mae’n dweud nad yw “Cymdeithas Ceidwadwyr Maldwyn yn gweithredu er lles y gymuned” a’u bod nhw wedi dangos “diffyg uniondeb” ar rai materion.

Fe wnaeth o adael y grŵp Ceidwadol ar y Cyngor ym mis Mehefin 2019, ond ailymunodd â nhw yn hwyrach ymlaen y flwyddyn honno.

‘Cydymdeimlo’n llwyr â’i resymau dros adael’

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y Cynghorydd Iain McIntosh ymddiswyddo o’r cabinet a’r grŵp Ceidwadol yn ystod cyfarfod cabinet byw.

Daeth hynny yn dilyn pleidlais unfrydol y Cabinet i uno Ysgol Fabanod ac Ysgol Iau Mount Street, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Cradoc yn ward y cynghorydd.

“Rydw i’n hynod o sori i weld Mark yn gadael y grŵp Ceidwadol ac rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â’i resymau dros adael,” meddai’r Cynghorydd McIntosh am ei gyd-gynghorydd, Mark Barnes.

“Mae hyn yn golygu bod y grŵp nawr i lawr i 12 aelod, o’r 20 oedd yn rhan o’r grŵp pan gefais fy ethol yn 2017.

“Mae’r grŵp Ceidwadol wedi cyflawni llawer ers hynny, ond mae rhai o’r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud, gan gynnwys cynyddu treth cyngor a chau ysgolion, yn mynd yn erbyn maniffesto’r blaid, ac wedi arwain at ormod o lawer o ymddiswyddiadau o’r grŵp.”

Ychwanegodd na ddylai’r dreth cyngor gael ei chodi ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r awdurdod lleol ym Mhowys yn derbyn £18m o gyllid ychwanegol.

‘Syrthio i anrhefn’

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth James Evans ymddiswyddo’n llwyr o’r Cyngor a’r grŵp Ceidwadol er mwyn canolbwyntio ar ei rôl fel yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, gyhuddo clymblaid y Ceidwadwyr a’r Annibynwyr ar Gyngor Powys o “syrthio i anhrefn”.

Gyda Gwernyfed, ward y cyn-gynghorydd, yn wag tan yr etholiadau lleol ym mis Mai, dim ond 72 o gynghorwyr sydd ar Gyngor Sir Powys tan hynny.

Mae’r ymddiswyddiadau wedi golygu bod gan y glymblaid 35 o aelodau yn ystod misoedd olaf y weinyddiaeth.

Pe bai pob un o’r 37 aelod o’r gwrthbleidiau yn pleidleisio â’i gilydd, byddan nhw’n gallu gwrthod y cynnig ar gyfer cyllid 2022/23 mewn ychydig wythnosau.