Fe wnaeth oddeutu 300 o bobol ymgasglu ym Mangor dros y penwythnos i wrthwynebu’r Bil Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a Llysoedd newydd.

Yn rhan o’r Bil, sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, byddai mwy o bwerau yn cael eu rhoi i’r heddlu ymateb i brotestiadau heddychlon.

Mae ymgyrchwyr yn bryderus y gallai’r cyfreithiau newydd fygwth rhyddid, gwaethygu anghydraddoldebau, a thanseilio hawliau sifil ar draws y Deyrnas Unedig.

Cafodd y brotest ym Mangor ei threfnu gan gymdeithasau lleol, gan gynnwys Cymdeithas y Cymod, Gwrthryfel Difodiant Bangor a Divest Gwynedd.

Dechrau’r brotest ger cloc Bangor

Bil newydd

Mae’n debyg y byddai unrhyw brotest sy’n cael ei hystyried yn un sy’n “cythruddo” neu’n “swnllyd” yn gallu cael ei chau i lawr o dan y cyfreithiau newydd, hyd yn oed os yw’n un heddychlon.

Yn ôl trefnwyr y brotest, gallai’r heddlu hefyd stopio a chwilio unigolion ar hap, yn ogystal â dal unrhyw un sy’n cael ei amau o gario eitemau ar gyfer protest, hyd yn oed eitemau cartref diniwed.

Dywedon nhw y byddai hyn yn cynyddu hiliaeth systemig a rhagfarn sy’n cael ei brofi gan rai unigolion yn y Deyrnas Unedig heddiw.

‘Symud, mynegi ac ymgynnull’

Roedd Alison Shaw, cyn-athrawes gwyddoniaeth yng Nghonwy sydd bellach wedi ymddeol, yn y brotest brynhawn Sadwrn (Ionawr 8).

“Nid dyma’r llwybr tuag at gymdeithas rydd a chyfiawn,” meddai.

“Dyma’r llwybr tuag at gyfyngu ar ein hawliau canrifoedd oed am ryddid i symud, mynegi ac ymgynnull.

“Mae hyn yn hollol anghydnaws â’r darlun o’r Deyrnas Unedig fel lle rhydd.”

‘Elfen o gymdeithas ddemocrataidd iach’

Ymhlith y siaradwyr yn y brotest, a ddechreuodd ger Cloc Bangor, oedd Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams, a Maer Bangor Owen Hurcum.

Roedden nhw’n nodi pwysigrwydd protestio mewn ymgyrchoedd dros y Gymraeg a hawliau LHDT.

“Pe bai’r bil yma heb gael ei weithredu 100 mlynedd yn ôl, ni fyddai gennym ni bleidlais i fenywod, hawliau sifil, na chyfreithiau yn erbyn llafur plant heddiw,” meddai Ayeisha Hughes o Lanberis, sy’n asesydd anabledd ym Mhrifysgol Bangor.

Maer Bangor, Owen Hurcum, yn siarad yn y brotest

“Mae hyd yn oed rhywbeth mor syml â phenwythnosau wedi cael ei ennill drwy brotest!

“Rydyn ni wedi helpu i ledaenu’r neges am y bil sy’n cael ei basio o dan ein trwynau, sy’n bwysig iawn.

“Mae yna amser o hyd i roi pwysau ar Dŷ’r Arglwyddi, sy’n pleidleisio ar y Bil yr wythnos hon, i stopio’r elfennau gwaethaf o’r Bil rhag cael eu deddfu.”

“Mae protestio heddychlon yn elfen o gymdeithas ddemocrataidd iach,” meddai Heather Jones, un arall oedd yn y brotest.

“Os na allwn ni brotestio’n heddychlon, sut arall y gallwn ni sefyll i fyny a galw am y newidiadau rydyn ni eu hangen mewn cymdeithas?”

Ymgyrchwyr yn dod ynghyd yn y gogledd i brotestio yn erbyn y Bil Heddlu newydd

“Os nad ydyn ni’n gallu protestio’n heddychlon, sut arall allwn ni sefyll dros y newidiadau rydyn ni eu hangen mewn cymdeithas?”