Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi herio Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Boris Johnson.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig dan y lach am bartïon a gafodd eu cynnal yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo yn 2020.

Cyn i’r honiadau diweddaraf ddod i’r amlwg, oedd yn dweud bod Boris Johnson a’i wraig Carrie wedi bod yn cynnal partïon, roedd y prif weinidog yn mynnu nad oedd e’n ymwybodol o bartïon yn ei gartref ar adeg pan oedd y Deyrnas Unedig dan gyfyngiadau llym oherwydd Covid-19.

Yn ystod sesiwn holi arbennig yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11) yn dilyn cais gan y Blaid Lafur, clywodd aelodau seneddol dystiolaeth gan etholwyr oedd wedi methu gweld anwyliaid oherwydd y cyfyngiadau, gyda rhai yn colli aelodau eu teuluoedd ac yn methu mynd i’w hangladdau oherwydd yr uchafswm ar niferoedd oedd yn cael mynd.

Ar yr un pryd, roedd partïon yn cael eu cynnal yn Downing Street, gyda degau o bobol yn bresennol.

“Tra bod fy etholwyr a phobol ledled Cymru gyfan yn ffarwelio â’u hanwyliaid dros Zoom, roedd ysgrifennydd preifat Boris Johnson yn dweud wrth staff i ddod ag alcohol eu hunain i’w yfed yn yr ardd,” meddai Jane Dodds.

“Mae un rheol iddyn nhw a rheol arall i bawb arall.

“Mae hi bellach yn glir fod y prif weinidog wedi dweud celwydd droeon wrth y cyhoedd ac wedi amharchu’r cyhoedd yng Nghymru yn fawr iawn.

“Does bosib fod rhaid i Simon Hart gyflwyno’i lythyr o ddiffyg hyder oherwydd mae angen symud y Prif Weinidog hwn [o’i swydd].”

 

Cwestiynau brys am bartïon Downing Street

Huw Bebb ac Alun Rhys Chivers

Boris Johnson ddim yn San Steffan i ateb

Pwysau’n cynyddu ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Huw Bebb

“Dyw Boris Johnson ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog”