Mae Boris Johnson yn cefnogi ei ysgrifennydd preifat Martin Reynolds, sydd dan y lach ar ôl gwahodd 100 o bobol i barti yng ngardd Downing Street yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ac mae’n dal yn ei swydd, yn ôl llefarydd.

Fe ddaeth i’r amlwg yn adroddiad newyddion ITV fod y parti wedi’i gynnal ym mis Mai 2020, pan nad oedd modd i bobol ymgasglu mewn grwpiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson ei fod yn dal i ymddiried yng ngallu Martin Reynolds, a’i fod yn “dal wrth ei waith”.

“Ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod eithriadol o brysur, roedden ni’n meddwl y byddai’n braf gwneud y mwyaf o’r tywydd braf a chael ambell ddiod o bellter cymdeithasol yng ngardd Rhif 10,” meddai e-bost sydd wedi’i chyhoeddi erbyn hyn.

“Ymunwch â ni o 6yh a dewch â’ch alcohol eich hun!”

Mae Boris Johnson wedi osgoi ateb cwestiynau yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11), gan anfon Michael Ellis, un o weinidogion y Llywodraeth, yno ar ei ran i ateb cwestiynau brys yn dilyn cais gan y Blaid Lafur.

Doedd llefarydd Boris Johnson ddim yn gallu dweud lle’r oedd e, gan ddweud nad oedd ei ddyddiadur wrth law, ond nad oedd yn “anghyffredin” i weinidogion eraill arwain sesiynau o’r fath.

Mae Boris Johnson yn gwrthod dweud o hyd a oedd e yng ngardd Downing Street gyda’i wraig Carrie ar gyfer partïon yn ystod y cyfnod clo, ond mae lle i gredu ei fod e.

Mae swyddogion yn Downing Street yn gwrthod gwneud sylw, ac eithrio egluro bod yr honiadau’n rhan o’r ymchwiliad gan Sue Gray i honiadau bod partïon wedi’u cynnal yn Downing Street ac yn Whitehall.

Yn ôl Michael Ellis, bydd “camau priodol” yn cael eu cymryd os oes tystiolaeth fod unrhyw reolau wedi’u torri.

Mae Heddlu Scotland Yard yn dweud eu bod nhw mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gabinet mewn perthynas â’r honiadau am barti ar Fai 20, 2020.

Mae rhai Ceidwadwyr, hyd yn oed, yn feirniadol o’r sefyllfa, gyda’r Farwnes Davidson, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, yn dweud “nad oes angen swyddog ar neb i ddweud wrthyn nhw a oedden nhw mewn parti meddwol yn eu gardd eu hunain”.

‘Annhebygol o fod yn gyfreithlon’

Yn y cyfamser, mae’r cyfreithiwr Adam Wagner, sy’n dehongli cyfyngiadau Covid-19 i’r cyhoedd ar Twitter, yn dweud ei bod hi’n “annhebygol” bod y parti’n “gyfreithlon” i’r sawl oedd yno.

Roedd Heddlu Llundain wedi trydar ar ddiwrnod yr e-bost am y parti yn Downing Street, yn dweud bod hawl gan bobol gael picnic, gwneud ymarfer corff neu chwaraeon awyr agored “ar eich pen eich hun, gyda phobol rydych chi’n byw gyda nhw, neu ddim ond chi ac un person arall”.

Ar yr un diwrnod, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden fanteisio ar gynhadledd i’r wasg i atgoffa’r cyhoedd fod modd “cyfarfod ag un person y tu allan i’ch aelwyd mewn lle awyr agored, cyhoeddus, ar yr amod eich bod yn cadw dwy fetr ar wahân”.

Yn ôl llefarydd ar ran Boris Johnson, cafodd gardd Downing Street ei defnyddio’n “eithaf aml, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, gan staff Rhif 10 Downing Street”.