Mae staff Cyngor Ceredigion wedi dangos cefnogaeth “eithriadol” ar gyfer gofal mewn cartrefi.
Fe wnaeth 300 unigolyn gytuno i wirfoddoli yn y maes pe bai angen, wrth i achosion o Covid-19 gynyddu ledled Cymru a rhoi straen ar wasanaethau.
Dywed y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd y Cyngor, fod y prif weithredwr Eifion Evans wedi gofyn i aelodau staff sydd â thystysgrifau DBS a fydden nhw’n gallu rhoi cymorth pe bai’r “sefyllfa’n dirywio”.
Roedd yr arweinydd yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn â sefyllfa Covid-19 yn y sir mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11).
Mae’n debyg fod nifer achosion yn y sir wedi gostwng, ond mae’n bosib fod hynny oherwydd oedi wrth gofnodi canlyniadau PCR mewn rhai labordai.
‘Ymateb eithriadol’
Wrth drafod y garfan o staff wnaeth gyflwyno’u henwau i wirfoddoli, roedd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn canmol hynny.
“Dw i’n credu bod hynny’n ymateb eithriadol ac mae’n dangos pa mor gryf yw ysbryd y gymuned yma yng Ngheredigion,” meddai.
Fe wnaeth hi hefyd ddweud bod 57 aelod o staff wedi gorfod bod yn absennol o’u gwaith gyda’r cyngor oherwydd Covid-19, gan gynnwys 28 o staff ysgolion.
Er hynny, dywedodd ei bod hi’n newyddion da bod ysgolion wedi gallu ailagor yr wythnos hon.
Daeth hi hefyd i’r amlwg bod chwech o gartrefi gofal y Cyngor yn y categori coch, a phedwar yn y categori oren oherwydd bod staff wedi eu heintio â Covid-19.
Mae’n debyg nad oedd dim un achos ymysg preswylwyr y cartrefi gofal hynny.
Clywodd y Cabinet hefyd fod 18 o achosion positif yn ysbyty Bronglais, sy’n “uwch nag y mae wedi bod ers amser hir”, yn ôl yr arweinydd.