Mae cynllun Trafnidiaeth Cymru i dreialu system docynnau ’talu wrth fynd’ ar drenau a bysys wedi cael ei ddisgrifio fel “cam i’r cyfeiriad cywir”.

Bydd yn golygu y gall teithwyr ddefnyddio eu cardiau banc ar y gatiau rhwystrau i deithio ar drenau a bysiau.

Dywed Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi wedi galw am gyflwyno cerdyn teithio “dro ar ôl tro”.

“Am lawer rhy hir, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn dirywio ac mae’r ymgyrch hon i’r 21ain ganrif yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran sicrhau bod gennym rwydwaith addas i’r diben, yn enwedig os ydym am annog mwy o bobl allan o geir,” meddai.

“Rwyf wedi codi’r syniad o gerdyn teithio dro ar ôl tro ac rwy’n falch iawn o weld bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwrando a gweithredu.

“Bydd yn gwneud bywydau teithwyr yn llawer haws gyda theithio cyflymach, llai o giwio ar rwystrau tocynnau yn ogystal ag annog twristiaeth, a fydd yn ei dro yn rhoi hwb i economïau lleol ledled y wlad.

“Rwy’n gobeithio y bydd y treialon hyn yn llwyddiant ysgubol a byddant yn cael eu cyflwyno ledled y wlad cyn gynted â phosibl fel y gall pobol elwa ar ffordd decach a haws o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod digon o drenau a bysiau’n rhedeg i wneud hyn yn wirioneddol werth chweil.”