Mae astudiaeth newydd yn dod i’r casgliad bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant.

Bu’n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gafodd dysgu ar-lein ei gyflwyno yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio’n negyddol ar eu hyder a’u lles, yn ôl yr astudiaeth.

Arolygodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd gyfanswm o 407 o ddisgyblion 11 i 18 oed yn ystod mis Tachwedd 2020 ar ôl i’r ysgolion ailagor.

Atebodd y disgyblion gwestiynau am eu gallu i ganolbwyntio, eu cymhelliant a’u brwdfrydedd, ac a oedden nhw’n hyderus yn eu gallu i ddysgu.

Drwy ddadansoddi eu hymatebion, dangosodd yr ymchwilwyr fod profiadau dysgu ar-lein disgyblion yn llawer llai cadarnhaol na’u profiadau o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Roedd y gwahaniaethau hyn hefyd yn fwy amlwg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu penodol.

‘Cynnydd mawr yn anawsterau iechyd meddwl pobl ifanc’

“Roeddem am archwilio a oedd gwahaniaethau o safbwynt gallu disgyblion i ganolbwyntio, eu cymhelliant a’u brwdfrydedd rhwng cyfnodau addysgu ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth,” meddai’r prif awdur, yr Athro Nicola Gray o Gyfadran Feddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe.

“Felly, gwnaethom ofyn i ddisgyblion gymharu eu profiad arferol yn yr ystafell ddosbarth â’u profiad o ddysgu ar-lein.

“Gan fod ymchwil flaenorol wedi dangos bod 50% o achosion gydol oes o anhwylderau iechyd meddwl yn dechrau cyn 14 oed, mae pryderon y byddai’r pandemig yn arwain at gynnydd mawr yn anawsterau iechyd meddwl pobol ifanc.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod profiadau dysgu disgyblion yn llawer gwaeth na’u profiadau arferol yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae hyn hyd yn oed yn waeth i’r rhai sydd â phroblemau cof gweithio.

“Gan y dangoswyd bod cysylltiad rhwng brwdfrydedd dros addysg a lles meddwl plant, mae’n hanfodol bod addysgwyr yn dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y problemau a gafwyd yn ystod addysg ar-lein er mwyn sicrhau na fydd angen i gyfran fwy o bobol ifanc gael cymorth iechyd meddwl ac na fydd rhagor o achosion o ymyrraeth.”